Ar ôl 14 rownd, dim ond tri phwynt sy’n gwahanu’r timau o’r pumed i’r 11 safle, gyda phedair rownd yn unig yn weddill.

Mae’r Ras i’r Wyth Uchaf yn parhau penwythnos yma ac mae pob gêm, a phob canlyniad, yn cyfrif!

O ran y rhanbarthau, y Scarlets fydd yn cymryd i’r cae gyntaf dros y penwythnos a hwythau’n croesawu Hollywoodbets Sharks i Barc y Scarlets heno.

Mae’r Gweilch yn parhau yn Ne Affrica, yn teithio i Pretoria penwythnos yma i wynebu Vodacom Bulls tra bod Caerdydd a’r Dreigiau adref hefyd.

Fe fydd Caerdydd yn croesawu Caeredin i’r brifddinas a’r Dreigiau yn croesawu Gwyddelod Connacht i Gasnewydd.

Scarlets

Un buddugoliaeth yn unig y mae’r Scarlets wedi llwyddo i’w sicrhau yn eu saith gêm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT a hynny yn Rownd 12 yn erbyn Benetton ym Mharc y Scarlets.

Nid yw’r rhanbarth wedi llwyddo i sicrhau buddugoliaeth dros wrthwynebwyr o Dde Affrica y tymor hwn. Maent wedi wynebu gwrthwynebwyr o Dde Affrica ar unarddeg achlysur blaenorol ar Barc y Scarlets yn y Bencampwriaeth gan golli dwywaith yn unig: 21-26 i’r Stormers ym Mai 2022 a 23-24 i’r Lions fis Tachwedd diwethaf.

Colli yn erbyn Glasgow oedd hanes yr Hollywoodbets Sharks penwythnos diwethaf ac nid ydynt wedi ennill oddi cartref yn y Bencampwriaeth ers curo’r Lions 29-7 yn Johannesburg ym mis Chwefror 2023.

Mae’r ddwy ochr wedi cyfarfod ychydig ddwywaith o’r blaen gyda’r tîm cartref yn fuddugol ar bob achlysur.

Gweilch

Mae’r Gweilch wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT, gartref i’r Lions ac oddi cartref yn y Stormers.

Maent wedi ennill pob un o’r pedair gêm y maen nhw wedi’u chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr o Dde Affrica ym mhob twrnament y tymor hwn.

Mae’r Vodacom Bulls wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf, yn erbyn Leinster a gartref yn erbyn Munster. Daeth rhediad cartref buddugol o saith gêm yn y Bencampwriaeth i ben gyda’r golled i Munster y penwythnos diwethaf.

Un gêm yn unig y mae’r Bulls wedi colli mewn deg gêm yn erbyn rhanbarthau Cymru, a cholli yn erbyn y Scarlets oedd eu hanes ym mis Ionawr 2023.

Mae’r Gweilch wedi wynebu’r Bulls ddwywaith o’r blaen a’r tîm o Dde Affrica sydd wedi bod yn fuddugol ar y ddwy achlysur.

Caerdydd

Mae Caerdydd wedi colli eu chwe gêm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT ers eu buddugoliaeth 55-21 dros y Dreigiau ar Barc yr Arfau ar Ŵyl San Steffan. Nid yw Caerdydd wedi colli saith yn olynol yn y Bencampwriaeth ers 2015.

Mae’r Cymry wedi colli eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn gwrthwynebwyr o’r Alban ers curo Glasgow 32-28 ar Barc yr Arfau ym mis Mawrth 2022.

Dwy gêm yn unig y mae Caeredin wedi colli o’u chwe gêm ddiwethaf yn y bencampwriaeth, y ddwy oddi cartref i wrthwynebwyr o Dde Affrica, Stormers a Sharks yn Rowndiau 12 a 13.

Mae Caeredin wedi ennill deirgwaith oddi cartref yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, yn erbyn y Dreigiau yn Rownd 1, Ulster yn Rownd 7, a Zebre yn Rownd 10.

Mae’r Albanwyr wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn rhanbarthau Cymreig ym mhob twrnamaint ers colli 14-42 i’r Scarlets ym mis Chwefror 2023.

Unig golled Caeredin yn eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Caerdydd oedd 15-34 ar Barc yr Arfau ym mis Mawrth 2021.

Dreigiau

Unig fuddugoliaeth y Dreigiau yn eu pum gêm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT oedd 20-13 gartref i Zebre yn Rownd 13.

Mae’r Dreigiau wedi colli unwaith yn unig yn eu pedair gêm gartref ddiwethaf yn y Bencampwriaeth yn Rodney Parade: 10-31 i’r Bulls yn Rownd 12.

Nid yw’r Cymry wedi curo gwrthwynebwyr Gwyddelig ers i Munster ymweld â Chasnewydd ym mis Medi 2022.

Mae Connacht wedi colli dim ond dwy o’u chwe gêm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT, gartref i’r Lions yn Rownd 12 ac oddi cartref yn Benetton yn Rownd 13.

Mae Connacht wedi ennill eu naw gêm ddiwethaf yn erbyn rhanbarthau Cymru ers i wrthwynebwyr heddiw, y Dreigiau, eu curo yn Galway ym mis Hydref 2021. Y fuddugoliaeth honno yw unig lwyddiant y Dreigiau yn erbyn Connacht ers iddynt guro 21-8 yn Rodney Parade ym mis Medi 2017.