Mewn cyhoeddiad annisgwyl, cyn gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad eleni, mae George North wedi cyhoeddi ei fod am gloi pen y mwdwl ar ei yrfa rygbi rhyngwladol.
Pedair blynedd ar ddeg ers gwneud ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf mae North wedi penderfynu bod yr amser yn iawn i gau’r drws ar y bennod yma a pharatoi at bennod newydd yn ei yrfa pan fydd yn symud i Ffrainc cyn y tymor newydd.