Y llynedd, dwi’n cofio ysgrifennu darn i Golwg cyn y Giro d’Italia yn dwyn y teitl ‘Geraint i wynebu bwgan y Giro’.

Yn fras, diben yr erthygl honno oedd trafod gobeithion Geraint Thomas yn y Giro d’Italia, ac yntau wedi profi cryn anlwc yn y ras honno yn y gorffennol. Y Giro d’Italia yw un o’r tri Grand Tour, ochr yn ochr â’r Tour de France a’r Vuelta a España; yn ras dair wythnos yn yr Eidal.

Roedd y Cymro wedi mentro ymgymryd â’r Giro ddwywaith yn y degawd blaenorol, ond chafodd o fawr ddim lwc.

Yn 2017, mi gafodd gyfle i arwain carfan Sky mewn ras uchel ei bri fel hon, a hynny’n beth prin iddo ar y pryd. Ond, fe’i gorfodwyd i adael y ras yn gynnar a hynny wedi iddo anafu mewn digwyddiad hurt yn ymwneud â beic modur.

Yn 2020 wedyn, a chyfle euraidd i roi cychwyn da ar y cyfnod ôl-bandemig iddo fo a’r tîm, daeth rhwystr pellach ar ei draws, a chodwm oherwydd potel ddŵr ar gyfeiliorn.

Dwy ddigwyddiad chwerthinllyd, ac â dweud y gwir, mae anffawd ac anlwc Geraint wedi bod yn destun cryn ddychan dros y blynyddoedd.

Felly, beth am 2023? Lwyddodd o i wynebu bwgan y Giro?

Bron iawn. Ond ddim cweit.

Ar ôl i ddeiliad y crys pinc, anrhydedd y sawl sydd ar frig y dosbarthiad cyffredinol, Remco Evenepoel, adael y ras gyda salwch ar y diwrnod gorffwys cyntaf, mi ddaeth sefyllfa annisgwyl gerbron y Cymro. Uwchraddiad dros nos o’r ail safle i’r brig.

Mi lwyddodd i ddal gafael ar y maglia rosa honno am sawl diwrnod wedyn, ac yntau mewn safle delfrydol i roi’r bwgan i’w wely unwaith ac am byth ac ennill y Giro.

Ond daeth un ar draws dathliadau cenedl gyfan ar y diwrnod olaf ond un. Primož Roglič y Slofeniad oedd hwnnw, ei hun wedi profi’r fath dorcalon gan golli’r Tour ar yr unfed awr ar ddeg ’nôl yn 2020. Yr amgylchiadau bron yn union yr un fath; y cymal 20 hwnnw’n ras yn erbyn y cloc ar allt. Mi lwyddodd Roglič i roi’r bwgan i’w wely.

Mynnodd Geraint yr wythnos hon wrth siarad â’r wasg nad ‘colli’ fu ei hanes y llynedd, mynodd yn hytrach mai ei guro wnaeth Roglič. Ac yn ei ffordd unigryw ei hun, roedd o’n achwyn am ba mor wirion oedd cynnal ras yn erbyn ar cloc ar allt.

Pan gyhoeddodd o’i galendr am eleni, a’r Giro’n cael lle blaenllaw arni, mi ymatebodd aml i un â pheth syndod, a minnau yn eu plith. Derbyn nad y Giro ydy’r ras iddo fo, a derbyn na ddaeth y ddihareb ‘tri chynnig i Gymro’ yn wir.

Ond eto, mae’n gwneud tipyn go lew o synnwyr hefyd. Mae cyfle i ddod â pethau i fwcl a chlymu pethau’n daclus yn apelgar iawn ym myd y campau, yn enwedig wrth ddynesu at ddiwedd eu gyrfaoedd. Er mwyn ceisio canfod rhyw heddwch yn y berthynas â’r ras, i gyflawni’r unfinished business, ys dywed y Sais.

Rheswm arall pam fod ymdrech Geraint i ymgiprys am y maglia rosa yn gwneud synnwyr yw’r cwrs. Un o fannau cryfaf Geraint yw’r ras yn erbyn y cloc – er enghraifft, mi enillodd o’r ras yn erbyn y cloc ar gymal cynta’r Tour yn Düsseldorf yn 2017 – ac mae deuddydd o hynny ar y Giro eleni, a chyfanswm o 70km, sy’n gymharol sylweddol i Grand Tour.

Cyplysir hynny â chyfanswm is o fetrau dringo nag unrhyw rediad arall o’r Giro ers dros ddegawd. Nid fod hynny’n wendid gan Geraint – nid heb allu dringo y mae rhywun yn ennill Tour de France a chymal ar Alpe d’Huez. Ond, mae’n golygu fod llai o gyfle i’w gystadleuwyr pennaf fanteisio ar eu cryfder cymharol hwythau. Does dim byd erchyll o anodd am y rhan helaeth o’r dringfeydd allweddol chwaith, sydd eto’n fantais iddo.

Un peth o’i blaid, beth bynnag.

Wrth roi gobeithion Geraint yn y glorian ar drothwy Giro 2024, sy’n cychwyn yfory yn y gogledd orllewin, mae ’na un bwgan go fawr yn taflu cysgod dros y cyfan.

Tadej Pogačar sy’n gyfrifol am hynny, reidiwr y mae Geraint ei hun wedi’i ddisgrifio fel y gorau o’i genhedlaeth ac un o’r goreuon erioed. Nid ar chwarae bach y mae ennill 2 Tour de France erbyn cyrraedd 22 oed, ac yna mynd ymlaen i ennill bron iawn beth bynnag y mynno, gan ymddangos fel pe bai’n mynd am dro hamddenol ar brynhawn Sul.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r Slofeniad fentro yn y Giro, ac mae disgwyl iddo fod ben ac ysgwyddau’n uwch na gweddill y gystadleuaeth.

Ond mae sawl un o blith y rheiny sy’n fodlon cystadlu ag o wedi’i gwneud hi’n glir eu bod hwythau am greu argraff a gadael eu stamp, a Geraint yn eu plith. Dywedodd wrth y wasg nad ydy’r canlyniad wedi’i benderfynu, a bod y pwysau ar Pogačar gyrraedd y disgwyliadau sydd ohono yn tynnu’r pwysau oddi ar ysgwyddau’r gweddill. Ac o ddilyn gyrfa’r Cymro ers blynyddoedd, mae’n tueddu i wneud orau pan nad oes gormod o bwysau ar ei ysgwyddau.

Mae Geraint yn ffyddiog. Does dim byd rhyfeddol am ei ganlyniadau hyd yma’r tymor hwn, ond dydy hynny’n ddim byd newydd. Mae’r paratoadau wedi mynd yn ôl y disgwyl, yn ei dyb o. Mae tîm cryf yn gefn iddo hefyd, yn cynnwys Tobias Foss, Filippo Ganna a Thymen Arensman yn dri allai anelu am y pinc eu hunain.

Nid ras un ceffyl, na dau geffyl o ran hynny, fydd hon chwaith. Mae sawl pen profiadol megis Romain Bardet a’u blys ar safle uchel; felly hefyd reidiwr iâu fel Antonio Tiberi neu Cian Uijtdebroeks, yn ysu am greu argraff ar y llwyfan mawr.

Felly mae ’na ddifyrrwch, mae ’na gwestiynau, mae ’na gyffro ar y gorwel wrth i’r Giro ddychwelyd i ddarparu adloniant drwy fis Mai. Pa ran fydd gan Geraint Thomas i’w chwarae yn y cyfan, pwy ŵyr.

Mae’n argoeli i gynnig digon i gnoi cil drosto, p’run bynnag.