Mae 11 rownd o gemau Pencampwriaeth Rygbi Unedig wedi bod, a wedi mynd, ac mae pethau’n poethi yn y ras i gyrraedd y rowndiau ail gyfle.
Fe wnaethon ni son wythnos diwethaf mai’r Gweilch, mewn gwirionedd, yw’r unig rhanbarth sy’n cadw pethau’n fyw i ni’r Cymry yng nghystadleuaeth eleni.
Mae hyn yn dal i fod yn wir, gyda’r rhanbarthau eraill bellach yn methu â chyrraedd yr wyth uchaf, felly mae’r pwysau, a’n gobeithion, i gyd yn gorwedd ar ysgwyddau’r Gweilch.
Mae wedi bod yn ymgyrch ddiddorol iawn hyd yn hyn ac mae llond lle o gyffro yn dal i ddod. Yn anffodus, cadw llygad tuag at waelod y tabl byddwn ni yn hytrach na rhoi’n sylw i gyd i’r wyth uchaf. Da byddai gweld ambell fuddugoliaeth gan y rhanbarthau cyn diwedd y tymor.
Cyrraedd yr wyth uchaf
Pum pwynt yn unig sy’n gwahanu Chaeredin, yn y pedwerydd safle, ac Emirates Lions, yn 11eg, wrth i ni agoshau at ddiwedd y tymor gyda saith rownd o’r gemau cyffredin yn weddill.
Mae Munster, Ulster a Chaeredin i gyd yn hafal ar 34 pwynt gyda Chonnacht pwynt yn unig tu ôl iddynt. Dau bwynt wedyn sy’n gwahanu Connacht a Benetton gan sicrhau bod y frwydr am y pedwar uchaf yn siwr o fod yn danbaid.
Yn dilyn buddugoliaethau yn Rownd 10 dim ond pedwar pwynt sy’n gwahanu’r Vodacom Bulls a Glasgow Warriors (40) a’r ceffylau blaen – Leinster (44).
Tymhorau blaenorol
Roedd 50 pwynt yn ddigon i gyrraedd y rowndiau ail gyfle dwy flynedd yn ôl a 58 pwynt yn ddigon i gyrraedd y pedwar uchaf.
Llynedd, dim ond 48 pwynt oedd angen i gyrraedd yr wyth uchaf, a’r rowndiau ail gyfle, ond roedd angen 63 pwynt i gyrraedd y pedwar uchaf ac i sicrhau gêm gartref yn y cwarteri.
Pwy sy’n debygol o gyrraedd?
Nawr, fel ry’n ni wedi son eisoes, dim ond y Gweilch sy’n gallu cyrraedd yr wyth olaf o safbwynt y rhanbarthau Cymreig ond mae 12 o’r 16 tîm yn dal yn y ras!
Mae 11 tîm yn dal yn y ras i gyrraedd y pedwar uchaf gyda saith gêm yn weddill.
Mae pob rownd yn cyfrif
Fel y gwelwch chi felly, mae pethau’n dynn iawn ac mae pob un rownd a phob un gêm yn cyfrif yn y bencampwriaeth!
Fe fydd y cyffro’n dychwelyd ar gyfer Rownd 12 ar Fawrth 22ain.