Sgoriodd Rachel Rowe ac Elise Hughes ddwy gôl yr un gyda Kayleigh Barton a Ffion Morgan yn sgori un yr un.
Mae Cymru wedi sicrhau’r dechrau perffaith i’r gemau rhagbrofol Ewropeaidd gyda buddugoliaeth dros Kosovo nos Fawrth yn dilyn buddugoliaeth dros Croatia. Mae tîm Rhian Wilkinson, y prif hyfforddwraig newydd, wedi sgorio 10 gôl mewn dwy gêm heb unrhyw ateb.
Roedd y fuddugoliaeth yn erbyn Kosovo yn ffordd berffaith i anrhydeddu camp anhygoel Jess Fishlock o gael ei chapio am y 150fed tro ac roedd hi’n arwyddocaol iawn yn rhai o goliau Cymru.
Daeth y gôl agoriadol ar ôl hanner awr pan basiodd Josie Green i Jess Fishlock a basiodd ymlaen i Rachel Rowe i sgorio.
Dyblwyd y fantais pan chwaraeodd Fishlock bêl drwodd ar gyfer rhediad amserol Kayleigh Green, a rhwydodd ail gôl Gymru.
Parhaodd tîm Wilkinson i ddominyddu yn yr ail hanner wrth iddi wneud defnydd llawn o’i charfan, gan roi cyfle i gynifer o chwaraewyr â phosibl.
Ar yr awr cysylltodd Rowe yn dda gydag Angharad James cyn rhyddhau ergyd o ymyl y bocs i roi’r gêm ymhell o gyrraedd Kosovo.
Munudau’n ddiweddarach Ffion Morgan gafodd y bêl yn y rhwyd wrth iddi orffen yn dda o groesiad i’r postyn pellaf gan Rowe. Roedd Cymru yn gwbl haeddiannol o fod ar y blaen o 4-0.
Roedd mwy o goliau i ddod wrth i Gymru sicrhau eu buddugoliaeth oddi cartref fwyaf ers 2006 wrth i Elise Hughes rwydo ddwywaith i’w gwneud hi’n 6-0 cyn y chwiban olaf.
Dechrau da iawn i Wilkinson a pherfformiadau cadarn gan Gymru.