Wrth i’r rhanbarthau baratoi ar gyfer yr unfed rownd ar ddeg o gemau ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig penwythnos yma, mae pethau ar y cyfan yn edrych yn eitha’ siomedig o safbwynt ni’r Cymry.
12fed, 14eg a 15fed yn y tabl yw stori Caerdydd, Scarlets a’r Dreigiau ar hyn o bryd gyda saith buddugoliaeth rhyngddynt o 30 gêm. Gydag ond wyth rownd yn weddill cyn i’r gystadleuaeth symud ymlaen i’r rowndiau ail gyfle Caerdydd yw’r unig un o’r tri sydd â gobaith mathemategol o gyrraedd yr wyth uchaf.
Ochr arall i’r tabl fodd bynnag mae’r Gweilch yn cadw ein gobeithion ni’n fyw. Gyda chwe buddugoliaeth o’i 10 gêm yn y bencampwriaeth, a heb golli gêm yn 2024, mae tîm Toby Booth yn eistedd yn y seithfed safle ar 29 pwynt – yn gyfartal ag Ulster sy’n wythfed.
Mae talcen caled o’u blaenau wrth edrych ar eu gemau hyd ddiwedd y tymor cyfredol;
- Caeredin oddi cartref
- Munster adref
- Emirates Lions adref
- DHL Stormers oddi cartref
- Vodacom Bulls oddi cartref
- Leinster oddi cartref
- Dreigiau adref
- Caerdydd oddi cartref
Fe fydd y Gweilch yn wynebu Caeredin heno, tîm sydd ar hyn o bryd yn y bumed safle, ac fe fydd buddugoliaeth dros yr Albanwyr yn rhoi hwb mawr i’w gobeithion yn y gynghrair.
Pwysigrwydd hyn oll, o safbwynt rygbi yng Nghymru, yw nad oes un o’r rhanbarthau wedi cyrraedd y rowndiau ail gyfle ers i’r Scarlets lwyddo i wneud hynny nôl yn 2018.
Serch hynny, mae’r Gweilch wedi mwynhau cyfnod digon llewyrchus ar y cae a hynny heb y chwaraewyr rhyngwladol sy’n rhan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar hyn o bryd. Gyda phum buddugoliaeth yn olynol, ym mhob cystadleuaeth, mae gan y tîm ifanc digon o hyder i wynebu’r her sydd o’u blaenau dros y misoedd nesaf.
Mae’r prif hyfforddwr Toby Booth wedi dweud bod cyfle gan y tîm i gyrraedd y rowndiau ail gyfle; “Dydyn ni ddim yn rhoi’r cart o flaen y ceffyl. Rwy’n poeni am y meddylfryd, y manion, ond yr hyn rydyn ni yn ei ddweud yw ‘Pam lai?’. Yn hytrach na dweud ‘Na,’ rydyn ni’n dweud ‘Pam lai?’
“Os yw’r dynion ifanc yma yn mynd i roi egni i fi fel hen ddyn, yna mae’n rhaid i fi gefnogi’r hyn y maen nhw’n ei gredu.
“Os ydyn nhw’n credu yn y peth, mae’n rhaid i fi gredu, felly pam lai?”
Er gwaethaf carfan lai o faint, a rhestr anafiadau llethol, mae’r Gweilch wedi ennill naw o’i 14 gêm yn y BKT URC a Chwpan Her EPCR y tymor hwn.
Aeth Booth ymlaen i ddweud; “Mae pawb yn ymwybodol pa mor anodd mae wedi bod gyda dros ugain o anafiadau, ond rydyn ni’n benderfynol o barhau ymlaen, dydyn ni ddim am ddefnyddio hynny fel esgus.
“Pwy bynnag sydd ar y cae, mae’n dod gyda disgwyliad o safon ac ymdrech. Rydyn ni’n siarad llawer am hynny ac mae’r bechgyn hyn yn cyflawni hynny.”
Oherwydd yr anafiadau, mae nifer o chwaraewyr ifanc wedi cael cyfle efallai’n gynt na’r disgwyl, ond maent i gyd wedi dangos eu doniau ac wedi gwneud gwahaniaeth i’r tîm.
Roedd hyn yn amlwg wrth i’r Gweilch sicrhau buddugoliaeth ddramatig ym munudau olaf y gêm yn erbyn Ulster yn Abertawe yn y rownd ddiwethaf.
Dan Edwards, y maswr 20 mlwydd oed a Seren y Gêm, giciodd y gôl adlam yn yr eiliadau olaf i ddwyn y fuddugoliaeth. Chwaraeodd rhan yng nghais y canolwr Keiran Williams hefyd.
Yn y pac, roedd y blaenasgellwr 22 mlwydd oed, Harri Deaves, a’r harddegyn Morgan Morse yn safle’r wythwr yn dangos doniau a phendantrwydd chwaraewyr llawer mwy profiadol.
Daeth y prop Ben Warren, 23, oddi ar y fainc a dangos dim gwendid yn erbyn Steven Kitshoff, enillydd Cwpan y Byd.
Does dim dadlau bod y dyfodol yn edrych yn ddigon iach i’r Gweilch.
“Yr hyn sy’n braf am weithio gyda chwaraewyr ifanc yw nad ydyn nhw’n gwybod yn wahanol,” meddai Booth.
“Mae’r ffydd a’r ymdrech – os cânt eu hyfforddi’n dda a’u datblygu’n dda – yn dod â pherfformiadau fel y gwelsom.
“Nid yw’n bosib cael perffeithrwydd bob tro, ond rydyn ni’n symud ymlaen yn gyflym oherwydd does dim ôl creithiau gyda’r bois yma.
“Mae’r diffyg profiad a dealltwriaeth yn amlygu eu hun mewn ffyrdd gwahanol.”
Mae’r rhanbarth wedi gweld datblygiad chwaraewyr fel Morgan Morris a Dewi Lake yn y blynyddoedd diweddar ac fe fydd Booth yn gobeithio parhau â’r datblygiad hwnnw yn y blynyddoedd i ddod.
“Rydyn ni’n datblygu’r bobl, datblygu’r ddealltwriaeth ac yna mae carfan y Gweilch yn tyfu. Mae’n bwysig cael amgylchedd lle mae’r bois yn teimlo eu bod yn gallu gwneud y cam nesaf.”