Roedd y cyhoeddiad wythnos ddiwetha gan Brif Weithredwr newydd tîm rygbi’r Gweilch yn newyddion i’w groesawu i’r mwyafrif helaeth. Wedi ugain mlynedd o denantiaeth yn y Swansea.com (y Liberty gynt), mi fydd y rhanbarth yn cefnu ar y stadiwm crand yng Nglandŵr, ar gyrion Abertawe, er mwyn gosod gwreiddiau rywle arall.
Does dim penderfyniad eto wedi ei wneud am gartref newydd i’r tîm o orllewin Morgannwg, ond ma Lance Bradley wedi datgan ei bod hi’n flaenoriaeth bennaf iddo yn ei rôl newydd, a mi alla i’ch sicrhau na fydd gormod o ddagrau yn cael eu colli wrth ddweud da bo i “Landore”!
Er gwaethaf perfformiadau a chanlyniadau positif y Gweilch dros y tymor neu ddau ddiwetha; er enghraifft, curo pencampwyr Lloegr a Ffrainc y llynedd (Caerlŷr a Montpellier), dyw’r gefnogaeth heb dyfu, a mae’r Prif Weithredwr newydd yn iawn i bwyntio’r bys at naws y stadiwm diffaith, achos mae’r profiad “matchday” yn ei hun yn atyniad mawr i nifer. Dyna pam mae’r brifddinas dan ei sang bob tro mae Cymru yn chwarae yn y Stadiwm Cenedlaethol; dyna pam mae’r Dreigiau, er gwaetha degawd a rhagor o siomi ar y cae yn dal i gynnig awyrgylch mae pobl am ei flasu.
Mi ddeallodd Rygbi Caerdydd flynyddoedd yn ôl nad talpyn o goncrid mewn parc manwerthu yw cartref ysbrydol y gamp yn y brifddinas. Drwy ffarwelio â Stadiwm Dinas Caerdydd a dychwelyd i’w gwreiddiau ym Mharc yr Arfau, maen nhw bellach yn medru cynnig awyrgylch trydanol ar ddiwrnod gêm, hyd yn oed pan nad yw’r tîm yn ennill. Fel byddai’r Sais yn ei ddweud; “bigger isn’t always better”!
Ond oleia’ bod gan Gaerdydd a’r Gweilch ddewis; piti penna’r Scarlets yw eu bod nhw’n gaeth i’r stadiwm dienaid yna yn Nhrostre. Mi gefnon nhw ar fwy na chae rygbi pan symudon nhw o’r Strade. Mi gefnon nhw ar ganrif a hanner o hanes, a chartref ysbrydol y gamp yng ngorllewin Cymru.
Dwi di gweithio droeon ar gemau rygbi yn y Swansea.com dros y tymhorau diwetha, ac yn fy marn i dyma’r lleoliad gwaetha i dîm rygbi’r Gweilch ar hyn o bryd. Cartref yr Elyrch yw hwn, tîm pêl-droed y ddinas sy’n llenwi’r stadiwm 20,000 o seddi yn wythnosol wrth i rai o glybiau mwyaf uwch-adrannau Lloegr ymweld ag Abertawe. Hyd yn oed yn ystod oes aur y Gweilch ryw bymtheg mlynedd yn ôl, anaml iawn y byddai’r stadiwm yn hanner llawn i wylio’r “Galacticos” Cymreig, oedd yn cynnwys mawrion y gamp fel Shane Williams, Gavin Henson, Justin Marshall a Jerry Collins. ‘Sdim dwywaith bod Bradley yn siarad dros y mwyafrif helaeth o genfogwyr wrth ddweud bod angen canfod cartref newydd ar frys.
Mae’n gyfnod o ail-adeiladu o’r gwaelod i fyny i rygbi Cymru (amser a ddengys yn hynny o beth), a mae’r Gweilch wedi sylweddoli o’r diwedd bod ganddyn nhw gyfle euraid i osod gwreiddiau sicrach mewn cymuned rygbi go iawn. Mae sibrydion wedi bod am ddatblygu maes enwog Sant Helen yn ninas Abertawe; neu wneud rhywbeth tebyg hefyd ar faes eiconig y Gnoll yng Nghastell Nedd; ac heb os mi roedd e’n achlysur i’w gofio ar Faes y Bragdy ym Mhenybont dros yr Ŵyl, er gwaetha’r llacs a’r baw!
Ond mae fy nymuniad i dipyn yn fwy “out there”, felly arhoswch gyda fi! Beth am gefnu ar goridor yr M4, a thrio rhywbeth gwirioneddol wahanol, drwy blannu eu hunain yng nghalon y cymoedd. Yr ardal eang a phoblog yna sydd wedi cynhyrchu talent aruthrol dros y blynyddoedd. Y cymunedau ôl-ddiwydiannol sy’n gartref i glybiau rygbi diri, wedi eu gwasgaru flith draphlith ym mhob tref a phentref o’r Nedd i’r Rhondda! Mi fyddai fe’n ddatganiad a hanner, ac yn gyfle i wneud yn iawn am frâd yr Undeb ugain mynedd yn ôl, pan gafodd y Celtic Warriors ei ddifa bron cyn iddyn nhw dynnu anadl. Mae’r cyfnod yma o ail-adeiladu yn gyfle i ail-danio dychymyg cynulleidfa graidd y gamp, a dihuno cawr cwsg y cymoedd.
Ryw hanner awr o siwrne yw hi o Abertawe i faes rygbi y “Wern” ym Merthyr Tudful. Tref fywiog sy’n hawdd i’w chyrraedd o bob cyfeiriad ers i ffordd newydd pennau’r cymoedd gael ei hagor. Cymuned sy’n gartref i un o glybiau hynaf y byd, ac un o’r 11 gwreiddiol a ffurfiodd Undeb Rygbi Cymru bron i ganrif a hanner yn ôl.
Dwi’n siwr y bydd sawl un yr eiliad hon yn bloeddio’r rhesymau niferus pam na fyddai hyn yn gweithio; er enghraifft, rhanbarth Abertawe a Chastell Nedd yw’r Gweilch. Iawn, ond mae hyn yn gyfle i ehangu’r “fan base”. Er tegwch iddyn nhw, y Gweilch sydd wedi mabwysiadu’r cysyniad o “rhanbarth” orau allan o holl dimoedd Cymru; Caerdydd yw Rygbi Caerdydd i bob pwrpas; Llanelli yw’r Scarlets (“rhanbarth” sy’n dathlu canrif a hanner o fodolaeth eleni gyda llaw!) ac er gwaetha’r enw, mae’r Dreigiau yn ymdebygu yn fawr iawn mewn lliw a llun i Black & Ambers Casnewydd.
Bydd rhai yn dadlau bod Merthyr yn disgyn dan “ranbarth” Caerdydd. Wel mae’n bryd ail-ddiffinio’r ffiniau felly, achos mae’r “Gleision” wedi ei gwneud hi’n amlwg iawn taw’r ddinas fawr yw eu cynefin a’u blaenoriaeth nhw o hyn allan.
Bydd eraill yn dadlau bod capasiti’r Wern yn rhy fach. 4,500 yw’r mwyafrif ar hyn o bryd, ond gyda maes artiffisial pwrpasol eisoes yn ei le, mi fyddai hi’n rhatach i ddatblgu’r stadiwm yma nag y byddai hi i ail-wampio rhai o’r opsiynau enwocach eraill sy’n cael eu hystyried. Mi allai’r Wern dyfu’n raddol gyda llwyddiant a dilyniant y tîm; yn union fel dylsai’r Scarlets fod wedi gwneud cyn gwario ffortiwn ar adeiladu stadiwm newydd ar gyrion Llanelli.
Dwi’n siwr bod nifer o resymau dilys eraill pam na ddylsai’r Gweilch symud hanner awr i fyny’r ffordd a mynwesu cynulleidfa goll y cymoedd, ond tybed ydy’r syniad wedi cael ei ystyried o gwbwl gan fwrdd y Gweilch neu gan Undeb Rygbi Cymru? Mae’n bur anhebyg, ond beth bynnag y penderfyniad, dwi’n siwr y gallwn ni gyd gytuno ar un peth; gwynt teg i’r Swansea.com!