Mae’r Gymraes Medi Harris wedi casglu medal efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Doha wythnos hon fel rhan o dîm cyfnewid cymysg Prydain Fawr.

Gorffennodd y tîm, oedd yn cynnwys Harris, Adam Peaty, Matthew Richards ac Anna Hopkin, gydag amser o 3 munud a 40.22 eiliad yn y ras gyfnewid 100 metr, amser oedd yn ddigon i sicrhau lle’r tîm yng Ngemau Olympaidd Paris 2024.