Ymhen pythefnos fe fydd Cymru yn croesawu’r Alban i Stadiwm Principaility ar gyfer rownd agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2024.
Fe fydd tîm Cymru ar ei newydd wedd, dan arweiniad capten newydd 21 mlwydd oed, a heb nifer o’r enwau cyfarwydd hynny sydd wedi bod yn hoelion wyth dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae Dan Biggar, fel wnaethon ni sôn ychydig wythnosau yn ôl yma, wedi cael ei ddymuniad gyda’r prif hyfforddwr Warren Gatland yn rhoi cyfle i’r to ifanc.
Teg yw dweud efallai mai trwy reidrwydd mae sawl un o’r penderfyniadau yma wedi eu gwneud. Petai Jac Morgan yn holliach mae’n siŵr y byddai ef wedi parhau â’i ddyletswyddau fel capten.
Ond, y gŵr 21 mlwydd oed, Dafydd Jenkins fydd yn cydio yn yr awenau ar gyfer y bencampwriaeth eleni.
Dywedodd Gatland; “Mae agwedd Dafydd a’i broffesiynoldeb wedi creu argraff fawr arnom. Mae eisoes wedi arwain Caerwysg ac mae ganddo barch ei gyd-chwaraewyr.
“‘Roedd wrth ei fodd pan ffoniais ef i gynnig y gapteiniaeth iddo – a gyda chefnogaeth y garfan – fe wnaiff gapten da.”
Yn wreiddiol o Borthcawl, mae Jenkins yn ennill ei blwyf gyda chlwb Caerwysg yn Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl penderfynu gadael Cymru i fynd i astudio yng Ngholeg Hartpury ac yna Prifysgol Caerwysg.
Er yn ddyn ifanc, mae wedi dangos bod ganddo ddawn naturiol at arwain gyda phrif hyfforddwr Caerwysg, Rob Baxter, yn ei enwi’n gapten ar ei dîm nôl ym mis Tachwedd 2022. Gosododd Jenkins record newydd yn yr Uwch Gynghrair y diwrnod hwnnw, fel y chwaraewr ieuengaf i’w enwi’n gapten, yn 19 oed a 342 diwrnod oed.
Mae Gareth Edwards, fodd bynnag, yn dal gafael ar y record fel capten ieuengaf erioed Cymru.
Mae pump o chwaraewyr yng ngharfan Gatland sydd heb ennill cap hyd yn hyn ac wyth chwaraewr arall – sydd eisoes wedi cynrychioli eu gwlad – ond sydd heb brofi’r wefr o chwarae yn y Chwe Gwlad, wedi eu cynnwys hefyd.
Fe enillodd Keiron Assiratti, Corey Domachowski, Cai Evans, Kemsley Mathias, Joe Roberts a Teddy Williams eu capiau cyntaf dros yr haf tra bo deuawd y Scarlets Sam Costelow a Ioan Lloyd eto i brofi gwefr y Bencampwriaeth chwaith.Mae canolwr y Gweilch Owen Watkin a chwaraewr rheng ôl Caerdydd, James Botham wedi ad-ennill eu lle yn y garfan – sydd â chyfartaledd oedran oddeutu 25.
Mae’n bwysig cofio bod Gatland wedi cefnogi’r to ifanc yn y gorffennol ac wedi cael cryn dipyn o lwyddiant. Mae e’n un sy’n aml yn adrodd y frawddeg ‘os wyt ti’n ddigon da, rwyt ti’n ddigon hen’.
Roedd ei dîm Camp Lawn 2012 yn meddu ar gyfoeth o chwaraewyr dan 23 mlwyd oed. Chwaraeodd Justin Tipuric, Sam Warburton, Toby Faletau, Jonathan Davies, Scott Williams, George North, Alex Cuthbert a Leigh Halfpenny ran amlwg ar daith llwyddiannus Cymru yn y Chwe Gwlad y flwyddyn honno.
Ychwanegodd Gatland: “Mae gennym brofiad pobl fel George North a Gareth Davies er mwyn sicrhau bod parhad yn ein datblygiad – ond ry’n ni hefyd yn edrych ymlaen at Gwpan y Byd ac felly’n cynnig y cyfle i rai chwaraewyr ifanc sydd ddim yn cael cyfleoedd cyson ar hyn o bryd.
“Mae’r chwaraewyr ifanc yma yn fy nghyffroi ac ‘rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu yn ystod y pedair blynedd nesaf.”Rwyf wedi dysgu dros y blynyddoedd bod yn rhaid mynd yn ôl i’r dechrau i raddau bob pedair blynedd gan eich bod yn anelu at gael y garfan yn eu hugeiniau canol neu hwyr erbyn Cwpan y Byd.
“Mae dechrau gartref mewn stadiwm lawn yn wych i ni gan ei fod yn gosod pwysau arnom.Mae’r Alban yn dîm da fydd wedi cael eu siomi gyda beth ddigwyddodd iddynt yn ystod Cwpan y Byd. Os y cawn ni ddechreuad da – bydd hynny’n ein gosod mewn lle addawol ar gyfer gweddill y Bencampwriaeth.
CARFAN CYMRU AR GYFER PENCAMPWRIAETH CHWE GWLAD GUINNESS 2024
Blaenwyr (19)
Corey Domachowski (Caerdydd – 6 cap)
Kemsley Mathias (Scarlets – 1 cap)
Gareth Thomas (Gweilch – 26 cap)
Elliot Dee (Dreigiau – 46 cap)
Ryan Elias (Scarlets – 38 cap)
Evan Lloyd (Caerdydd –heb gap)
Keiron Assiratti (Caerdydd – 2 cap)
Leon Brown (Dreigiau – 23 cap)
Archie Griffin (Caerfaddon –heb gap)
Adam Beard (Gweilch – 51 cap)
Dafydd Jenkins (Caerwysg – 12 cap)
Will Rowlands (Racing 92 – 29 cap)
Teddy Williams (Caerdydd – 1 cap)
Taine Basham (Dreigiau – 16 cap)
James Botham (Caerdydd – 9 cap)
Alex Mann (Caerdydd – uncapped / heb gap)
Mackenzie Martin (Caerdydd – uncapped / heb gap)
Tommy Reffell (Caerlŷr – 13 cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau – 43 cap)
Olwyr (15)
Gareth Davies (Scarlets – 74 cap)
Kieran Hardy (Scarlets – 18 cap)
Tomos Williams (Caerdydd – 53 cap)
Sam Costelow (Scarlets – 8 cap)
Cai Evans (Dreigiau – 1 cap)
Ioan Lloyd (Scarlets – 2 cap)
Mason Grady (Caerdydd – 6 cap)
George North (Gweilch – 118 cap)
Joe Roberts (Scarlets – 1 cap)
Nick Tompkins (Saraseniaid – 32 cap)
Owen Watkin (Gweilch – 36 cap)
Josh Adams (Caerdydd – 53 cap)
Rio Dyer (Dreigiau – 14 cap)
Tom Rogers (Scarlets – 3 cap)
Cameron Winnett (Caerdydd – heb gap)