Yr Hafan Ddymunol
Dwi’n byw ym Mhennant, Ceredigion a’r pregethwr gwadd yng nghapel y pentref rhyw fis yn ôl oedd y Prifardd Tudur Dylan. Ychydig ddyddiau ynghynt roedd wedi sôn ar X (Twitter) am adroddiad pêl-droed ym mhapur newydd Y Genedl Gymreig (Rhagfyr 1878) – gêm rhwng ‘cwmnïau’ Glyn Ceiriog a Llangollen!
Byddwch yn sylwi o’r ddelwedd sydd ynghlwm â’r pwt hwn mai’r “hafan ddymunol” yw disgrifiad y newyddiadurwr am y “gôl”. Dyna i chwi derm bendigedig ac onid dyna’r unig nod mewn gêm ffwtbol deudwch? Gosod y bêl yn yr “hafan ddymunol” yn amlach na’r gwrthwynebwyr!
O na fyddai’r dasg mor syml â hynny!
Melltith ar Klaksvíkar Ítróttarfelag (KÍ)
Fel cefnogwr Tref Aberystwyth; Glentoran; Stoke City, Derry City a Partick Thistle does neb yn gallu fy ngalw’n ‘glory supporter’ ond ers y clo dwi wedi bod yn cefnogi Klaksvíkar Ítróttarfelag (KÍ) ar Ynysyoedd Ffaro! Mae’r diolch i fy nghyfaill Andrew Bell yn Awstralia sydd wedi bod yn ffrind i mi ers ein dyddiau ysgol! Roedd y llynedd yn dymor anhygoel wrth i ‘ni’ ennill yr Uwch-gynghrair a hefyd cwpan y Stórsteypadystur! Llwyddiant ysgubol a’r cefnogwyr ar dân ar y cyfryngau cymdeithasol! Yn wir, roedd KÍ wedi ennill pencampwriaeth yr Uwch-gynghrair y tymor blaenorol a’r tymor cynt!
Dechreuodd y tymor yn ddigon calonogol gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Ítróttarfelag Fuglafjarðar (ÍF) ond gwae – dyma ‘ni’ yn colli yn erbyn B36 Tórshavn (2-0), yna colli un arall o’n pum gêm gyntaf – y tro hwn yn erbyn Havnar Bóltfelag (HB) o un gôl i ddim! Mae pob clwb dwi’n eu cefnogi’n ddioddef! Mae’n rhaid mai arna i mae’r bai – os dwi’n cefnogi’r tîm mae ‘na rhyw felltith arnyn nhw!
Ar Ebrill 25ain, cafodd y prif hyfforddwr Haakon Lunov ei ‘ryddhau o’i gyfrifoldebau’ gyda Espen Haug yn cymryd yr awenau am y tro! Pwy a wŷr os bydd y tîm yn troi’r tro a ninnau eisoes chwe phwynt tu ôl i Víkingur Gøta sydd ar frig y tabl! Amser â ddengys!
Bob Dylan mewn crys Rhif 7
Gyda’r tymor yn dirwyn i ben mi fydd digon o gyfle i ddarllen dros yr haf ac ar frig y rhestr mae Forever Young gan Oliver Kay sy’n adrodd hanes Adrian Doherty, o glwb Manchester United.
Yn ôl y broliant, yn lle gwylio’r Cochion yn Old Trafford ‘roedd yn well ganddo fynd ar fws i Fanceinion er mwyn bysgio. Roedd yn gwisgo dillad ail-law, yn addoli Bob Dylan, yn darllen am ddiwinyddiaeth a dirfodaeth Ffrengig, gan ysgrifennu caneuon a cherddi. Dywedodd un aelod o’r tîm “ei fod fel cael Bob Dylan mewn crys Rhif 7”.
Yn 17 mlwydd oed gwrthododd gytundeb pum mlynedd gyda’r Clwb a bu farw ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn saith ar hugain oed. Dwi’n cofio prynu’r gyfrol i fy mab Tomos a dwi’n mawr obeithio y byddaf yn ei gael yn ôl ar fenthyg!
Ffwtbol yr haf
Dwi bellach yn dilyn newyddion cynghrair haf Cynghrair Pêl-droed Haf Llandyrnog a’r Cylch ac yn bwriadu mynd draw i weld gêm cyn bo hir gyda fy nghyfaill Ifor Roberts o ardal Machynlleth.
Mae deuddeg tîm yn y gynghrair haf Caerwys; Cefn Meiriadog; Clawddnewydd; Henllan; Llandyrnog; Llanfair Dyffryn Clwyd; Llangynhafal; Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch; Nantglyn; Rhewl; Trefnant ac Ysgeifiog – a dwi wedi dewis fy nhîm!
Cewch fwy o’r hanes, a gwybod pa dîm dwi am eu cefnogi wedi i mi ymweld ag ardal Llandyrnog!