Mewn gêm dynn dros ben yn erbyn Gwlad Pwyl nos Fawrth, gyda’r naill dîm a’r llall yn methu â sgorio, fe aeth hi’r holl ffordd yn y diwedd gyda chynnig anffodus Dan James yn colli’r gêm i Gymru ar giciau o’r smotyn.

Yn dilyn y gêm ail gyfle neithiwr, Gwlad Pwyl fydd yn wynebu Ffrainc, Yr Iseldiroedd ac Awstria yn yr Ewros yn Yr Almaen ym mis Mehefin nawr, a hynny ar draul Cymru.