Wrth i chwaraewyr Tref Aberystwyth ymladd yn erbyn Pontypridd am eu heinioes pêl-droed dydd Sul bydd un o gefnogwyr mwyaf pybyr y Gwyrdd a Du yn dyfarnu gêm rhwng menywod Llambed a Tregaron. Yn ôl Lloyd Warburton “anghofiais i fwcio’r dyddiad bant felly rwy wedi cael gêm!

Hyd yma’r tymor hwn, mae Lloyd wedi dyfarnu 14 gêm oedolion ac wedi rhedeg y llinell mewn 17 gêm arall gan hefyd ddyfarnu 12 gêm iau. Ers dechrau’r tymor mae wedi bod i wylio 62 gêm oedolion ond mae’n rhoi pwyslais ar ‘hyd yma’ – “mae dal gen i dipyn o gemau ar ôl i’w gwylio a’u dyfarnu rhwng nawr a diwedd mis Mai”

Ei brif reswm dros ddod yn ddyfarnwr oedd oherwydd ei fod “wastad yn eu beio am y canlyniadau doeddwn i ddim yn eu hoffi. Un diwrnod penderfynais i fod angen deall eu safbwynt cyn eu beirniadu. Mae fy agwedd tuag at ddyfarnwyr wedi newid llawer ers hynny!

Nid chwaraewr sydd wedi troi’n ddyfarnwr yw Lloyd, “nes i chwarae pêl-droed pan oeddwn yn ifanc ofnadwy (tua 5 oed) ond ers hynny sa’i wedi chwarae o gwbwl. Rwy’n cofio bod yn rhan o grŵp Sami the Seagull (masgot y clwb) ar y pryd, ond fel arall, sai’n cofio llawer. Roeddwn i mor ifanc!”

Dechreuodd wylio pêl-droed o gwmpas 2012, pan oedd yn wyth mlwydd oed, gan wylio ambell gêm Aberystwyth ar y pryd, ond ar y pryd ei brif ddiddordeb oedd Manceinion Unedig yn Uwch Gynghrair Lloegr – erbyn hyn Tref Aberystwyth sy’n cael ei brif sylw. “Rwy’n cefnogi’r clwb. Gweithiais yn siop y clwb rhwng 2021 a 2023, ac rwy dal yn helpu mas weithia, os rwy’n gallu, ond ers dod yn ddyfarnwr mae tipyn llai o amser gen i ar y penwythnosau.”

Mae wrth ei fodd yn gweld pob tîm sy’n lleol i Aberystwyth yn llwyddo, “yn enwedig ein timau haen uwch fel Bow Street a Phenrhyn-coch! Ym mhyramid Lloegr, rwy’n cefnogi Manceinion Unedig, ond rwyf wastad yn hapus i weld Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, Casnewydd a Merthyr yn llwyddo hefyd.”

Ei arwyr ar y cae yw Chris Venables fel cyn chwaraewr Aberystwyth, Robin van Persie i Fanceinion Unedig, ac Hal Robson-Kanu i Gymru.

Graddio yw ei brif ffocws ar hyn o bryd ac yntau ar ei ail flwyddyn yn astudio Bywydeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac felly’n graddio ym Mehefin 2025. Wedi graddio mae’n gobeithio cael swydd yn lleol ac yn edrych ar ddringo’r pyramid dyfarnu. Hyd yn hyn, mae ganddo ddwy prif uchafbwynt fel dyfarnwr: “rhedeg y llinell yng gêm 16 olaf yr Amateur Trophy rhwng Penrhyncoch a Phenrhiwceiber, a dyfarnu’r gêm Varsity Menywod rhwng Aberystwyth a Bangor – dwy gêm enfawr i ddyfarnwr yn ei dymor llawn cyntaf!”

Holais Lloyd os oedd unrhyw dro trwstan wedi digwydd ers iddo ddechrau dyfarnu: “Sai’n credu rili. Rydw i wedi cael ambell gêm wael, ond mae hynny’n digwydd i bob dyfarnwr. Heblaw am anghofio fy ngheiniog mewn un gêm, sai’n credu bod lot mwy wedi bod yn embaras!”

A’i uchelgais cyn diwedd y tymor yw peidio cael anaf arall, “yn gynharach yn y tymor, roedd gen i broblemau yn fy nghoesau, ond, gobeithio, mae nhw wedi pasio. Byddai cael dyfarnu unrhyw ffeinalau yn bonws.”

Ei gyngor i unrhyw un sy’n ystyried rhoi cynnig ar ddyfarnu? “Ewch amdani! Dydy hi ddim wastad yn hawdd, ond mae’r profiadau positif yn anhygoel. Mae cymaint o bobl o gwmpas i’ch gefnogi ac i’ch hyfforddi, felly daliwch ati, a defnyddiwch pob profiad fel cyfle i ddysgu a datblygu.

Er y bydd Lloyd yn colli’r gêm rhwng Aberystwyth a Phontypridd mae’n edrych ymlaen at wylio’r pymtheg munud olaf ar ei ffôn yn yr ystafell newid yn Llambed!