Beth yw’ch atogfion chi o fywyd pan yn 11 mlwydd oed? Mynd i’r ysgol, cynrychioli’ch clwb lleol yn eich hoff gamp, chwarae yn yr awyr iach gyda’ch ffrindiau?

Mae Megan Thyer, o Lanelli, wedi profi llawer gwell a hithau yn 11 mlwydd oed.

Penwythnos diwethaf fe gystadlodd Megan ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd Ju Jitsu yng Ngwlad Belg.

Yn ifanc iawn yn ei grwp oed, roedd yn ddigwyddiad mawr i Megan ac ni dyn unig iddi berfformio ar ei gorau, fe ddaeth oddi yno gyda medal aur!