Daeth miloedd o redwyr ynghyd yn Llanelli penwythnos diwethaf, cyn i’r glaw mawr ddychwelyd am y dydd, ar gyfer Hanner Marathon a 10K y dref.
Yn ras sydd wedi datblygu yn un hynod boblogaidd ar y calendr am ei bod, ar y cyfan, ar dir gwastad ar hyd llwybr arfordirol hardd y Mileniwm.
Mae’r llwybr y cwrs wedi dychwelyd yn ôl i Gaeau’r Ŵyl, ar ôl cyfnod yn dechrau a gorffen ym Mharc y Scarlets. Er hyn, mae’n parhau i fod yn gwrs perffaith ar gyfer unrhyw un sy’n cymryd rhan yn eu hanner marathon cyntaf, neu redwyr sy’n erlid PB (gydag uchafswm o ddim ond 15m ar y 10K ac 16m ar yr hanner) ar draws rhai o olygfeydd gorau Sir Gaerfyrddin.
Enillydd yr hanner marathon y menywod oedd Caryl Edwards, o Glwb Harriers Abertawe, sydd wedi ennill y ras ar sawl achlysur yn y gorffennol. Daeth llwyddiant Edwards wythnos ar ôl iddi sicrhau buddugoliaeth ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Cymru.
Daeth Edwards i’r llinell derfyn gyda 1:16.21 ar y cloc, bron i wyth munud yn gynt na Steph Gibson (Tri Hard Harriers) yn yr ail safle ar 1:24.18. Lucy Richards o dîm Harriers Sir Benfro oedd yn drydydd ar 1:24.24.
Yn ras y dynion dau Gymro oedd yn yr ail a’r trydydd safle, Adam Bull (Roadents Pontypridd) yn ail ar 1:08.54 a Michael Roderick (Tri Hard Harriers) yn drydydd ar 1:09.52. Kadar Omar o glwb Birchfield Harriers ym Mirmingham oedd yn fuddugol gydag amser o 1:05.27.
Gwelwyd amserau cystadleuol iawn yn y ras 10 cilometr newydd gyda Lee Ladd yn gyntaf yn ras y dynion ar 38:36, Simon Madigan yn ail ar 38:51 ac Andy McCall o Glwb Harriers Dyffryn Aman yn drydydd ar 39:08.
Stori fawr y penwythnos yn ras 10 cilometr y menywod oedd gweld Katy Griffiths, sydd yn bymtheg mlwydd oed ac yn cynrychioli Clwb Penybont, yn gorffen yn y drydydd safle ar 42:18. Bethan Jones (Tri Potential) oedd yn fuddugol ar 39:59 a Millie Thomas (Harriers Abertawe) yn ail ar 42:18.
Wnaethon chi gymryd rhan yn eich hanner marathon neu ras 10 cilometr cyntaf yn Llanelli? Cysylltwch â ni i rannu’ch stori.