Un enw sydd wedi’i grybwyll ym mhob bwletin newyddion chwaraeon dros yr wythnosau diwethaf yw Luke Littler.
Os nad ydych chi wedi clywed amdano, mae’n rhaid eich bod chi wedi treulio’ch Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ogof Twm Siôn Cati!
Mae Luke Littler wedi llwyddo i ysgrifennu ei enw i’r llyfrau hanes a chyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Darts y Byd, ac ef ond yn 16 mlwydd oed.
Yn Chwys wythnos ddiwethaf, fe wnaethon ni son am Ethan Lock, y gŵr ifanc 15 mlwydd oed o Gaerdydd sydd wedi ei enwi yng ngharfan hoci iâ Team GB ar gyfer Gemau Olympaidd Gaeaf Ieuenctid 2024. Cewch ddarllen mwy yma.
Cawsom hanes y joci ifanc Lowan Cruise Mills, sy’n 16 mlwydd oed, gan Rhys ap William hefyd, yma.
Yn 2023 fe gystadlodd Lowan 44 o weithiau gan ennill 23 o’i rasys. Ymhlith ei lwyddiannau mae e wedi ennill Pencampwriaeth Traciau Rasio 138cm, Pencampwriaeth Point to Point 148cm ac yn Bencampwr Cymru 148cm.
Y cwestiwn mawr sydd gyda ni i chi yn 2024 yw pwy yw Lowan, Ethan neu Luke eich cymuned chi?
Cysylltwch â ni os oes gyda chi hanes unigolyn ifanc sy’n gwneud enw i’w hun yn eich clwb, cymuned neu gamp. Braf byddai clywed ei hanes nhw a rhannu’u straeon gyda Chymru gyfan.
Ebostiwch chwys@golwg.cymru neu cysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol.