Enillodd dwy Gymraes fedal arian penwythnos diwethaf yng Nghwpan y Byd yr IFBS (Ffederasiwn Rhyngwladol Bobsleigh a Sgerbwd).

Efallai nad yw gemau gaeaf yn rhywbeth rydym ni’r Cymry yn enwog amdano fel arfer, ond mae Adelé Nicoll a Kya Placide yn gobeithio dilyn ôl traed llwyddiannus Laura Deas, y Gymraes cyntaf i ennill medal Gemau Olympaidd y Gaeaf pan gipiodd y fedal efydd yn y sgerbwd yn Pyeongchang yn 2018.