Wrth i baratoadau Gemau Olympaidd Paris 2024 gynhesu mae tîm merched rygbi 7 bob ochr Prydain Fawr yn dechrau cael blas ar y medalau ar y gyfres 7 Bob Ochr HSBC SVNS.

Yn nhrydydd cymal y gyfres o wyth rownd cafwyd perfformiadau arbennig gan dîm Prydain Fawr, sy’n cynnwys y Gymraes Jasmine Joyce.

Roedd tîm Prydain Fawr yng ngrwp A ar gyfer y rownd yma yn Perth, Awstralia, gyda’r tîm cartref, Canada a Dde Affrica.