Dinas Caerdydd yw pencampwyr y Genero Adran Premier eleni yn dilyn buddugoliaeth o bedair gôl i ddim yn erbyn Dinas Abertawe nos Fercher (27/03/2024).

Dyma’r eilwaith o’r bron i Ddinas Caerdydd orffen y tymor ar frig yr uwch-gynghrair a hwythau wedi gwneud hynny gan ennill un ar bymtheg o’u deunaw gêm hyd yn hyn gan sgorio 57 gôl ac ildio dim ond naw.