Fe fydd tîm rygbi merched Cymru yn agor eu hymgyrch Chwe Gwlad ym Mharc yr Arfau ddydd Sadwrn nesaf, 23ain Mawrth, pan fyddant yn coesawu’r Alban i Gaerdydd ar gyfer rownd agoriadol y bencampwriaeth.

Ond, cyn hynny fe fydd Stadiwm Principality dan ei sang wythnos nesaf, a hynny ar ôl i Gymru gyfan ffarwelio â George North dros y penwythnos gydag ef wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol, wrth i Undeb Rygbi Cymru gynnal ei gŵyl blynyddol – Y Daith i’r Principality.

Mae’r ŵyl yn ddathliad o rygbi yng Nghymru, gyda thimau buddugol o gynghreiriau a chystadleuthau gwahanol yn cael y cyfle i chwarae ar y cae cenedlaethol, o dimau ieuenctid ac ysgolion i’r adrannau hŷn a’r Indigo Prem.

Un ysgol sydd wedi profi llwyddiant ar y daith i gyrraedd Stadiwm Principality yw Ysgol Godre’r Berwyn, Bala.

Mae’r ysgol yn rhagori ym maes rygbi merched yng Nghymru ar hyn o bryd gyda dim llai na pedwar tîm yn llwyddo i gyrraedd y diwrnod mawr yng Nghaerdydd, ddydd Mawrth 19eg Mawrth.

Fe fydd timau merched dan 12, 14, 16 ac 18 yr ysgol yn chwarae yn y rowndiau terfynol yn Stadiwm Principality.

Mae tîm dan 16 yr ysgol wedi cyrraedd, ac wedi ennill, y rownd derfynol yn Stadiwm Principality yn y gorffennol.

Y Swyddog Rygbi Euros Jones sy’n gyfrifol am hyfforddi’r merched, swydd y mae wedi bod yn gyfrifol amdani ers degawd gydag Ysgol Godre’r Berwyn ac ysgolion cynradd yr ardal (Ysgol O M Edwards, Ysgol Ffridd y Llyn, Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Bro Dyfrdwy) yn derbyn hyfforddiant ganddo.

Does dim dwywaith bod y gwaith diwyd gan Euros Jones yn talu ar ei ganfed. Mae pedair chwaraewr, Lowri Blain, Ceri Redman, Teleri Davies ac Awen Prysor wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ers 2003.

Mae Efa a Saran Jones yng ngharfan dan 18 Cymru ar gyfer Gŵyl Dan 18 y Chwe Gwlad a fydd yn dechrau yn Sadiwm CSM nos Wener 29ain Mawrth ac yn digwydd tan ddydd Sadwrn 6ed Ebrill.

Pob lwc i dimau Ysgol Godre’r Berwyn!

Ydych tîm ysgol / clwb chi yn rhan o’r ŵyl yn Stadiwm Principality wythnos nesaf? Cysylltwch â ni ar chwys@golwg.cymru neu ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu’ch stori!