Roedd hi’n Ddydd Gŵyl Dewi. Agorodd gil y llenni, yn procio’r goleuni i chwilio’i ffordd o’i guddfan ac i mewn i’r ystafell. Yn chwilio’i hun am lesni’r awyr rhwng talpiau o gwmwl pluog, a’u hysgafnder yn treiddio i’w ysbryd yntau.
“Nawr lanciau rhoddwch glod, mae’r Gwanwyn wedi dod,” hymiodd yr alaw’n llon wrth wneud ei ffordd o gyfforddusrwydd ei ystafell wely, a hwylio i’r gegin am baned a thamaid o frecwast, i roi rhywfaint o egni yn y storfa.
Wrth basio drwy’r stafell fyw, sylwodd ar y swp o gylchgronnau seiclo yn pentyrru’n uchel, a haen denau o lwch arnyn nhw. Felly hefyd ar y casgliad o rỳff geids a llyfrau tebyg ar y silff… “a’r Gaeaf a’r oerni a aeth heibio.”
Cyrhaeddodd yn ôl i’w stafell wely, i chwilio am y dillad addas ar gyfer y diwrnod. Daeth o hyd iddyn nhw, yn yr union le y gadawodd o nhw, yn eu pentyrrau a’u plygiadau taclus.
Ond daeth teimlad cyfarwydd o benbleth. Be’ ma’ rywun i fod i’w wisgo adeg yma o’r flwyddyn? Mi allith hi fod yn gynnes braf yn llygad yr haul, ond yn gythreulig o oer ar y topiau ac yn y cysgodion; mae angen rhywbeth sy’n ffitio ar y sbectrwm yn rhywle rhwng dillad haf a dillad gaeaf.
Mae’n estyn am ddetholiad o eitemau ac ategolion a’u gwisgo nhw neu eu gwasgu nhw mewn i’w bocedi cefn, a phopeth yn teimlo braidd yn dynn.
Mae’n mynd allan drwy’r drws cefn, ac ar draws yr ardd i gyfeiriad y sied sydd wedi gweld dyddiau gwell. Mae hoel sawl Gaeaf ar y pren ac yng ngwichian cras y drws gwantan wrth ei agor.
Wrth iddo fo fynd at y beic, mae’n sylwi ar fudredd o’r tro diwethaf iddo fo fod allan, ac yntau heb drafferthu ei lanhau o ar ddiwedd un tymor nac ar ddechrau un arall. Ac mae’n sylweddoli’i fod o wedi anghofio potel ddŵr a goleuadau.
Mae’n troi’r cyfrifiadur bach GPS ymlaen, yn disgwyl goleuadau’n fflachio a map a chyfres o seros i lenwi’r sgrîn, ond neges am fatri rhy isel yw’r unig ymateb pitw.
Mi ddaw’n ôl i drefn yn o fuan.
Mae pwmpio aer yn y teiars yn hen ddigon o waith cynhesu i fyny iddo fo, a’r gwaed yn pwmpio wrth iddo ryfeddu ar gyn lleied o wynt sydd ganddo fo. Efallai na fydd yr elltydd cweit mor rhwydd ag y byddai o wedi gobeithio.
Gwthia’r beic yn ôl dros y lawnt, sydd â mymryn o wlith drosto, a’i wasgu drwy’r giât fechan wrth ochr y tŷ. Mymryn mwy o wthio, ac mae o allan ar y stâd, yn lycra i gyd i lygaid y byd.
Fesul tro o’r pedalau, mae’n dechrau ail-ymgyfarwyddo. Fel dechreuadau lletchwith sgwrs â hen gyfaill nad ydy o wedi’i weld ers tro. Neu efallai fel offerynnwr, yn ail-gydio yn y ffidil o’r to, yn arwain ei fys ar hyd ei ffurfiau a’i siapiau, a dod i’w ’nabod unwaith eto.
Fesul tro o’r pedalau, mae’i holl boenau fel petaen nhw’n codi oddi ar ei ysgwyddau, a phylu i ddim yn yr awyr, mewn dim o dro. Y straffaglu a’r trafferthion o gael ei hun yn barod wedi mynd yn angof yn syth, wrth i’r awel oglais ei fochau, gan wneud i’w lygaid befrio.
Fesul tro o’r pedalau, daw i fwynhau teimlad cynnes yr haul ar ei gefn, ac i fwynhau sisial y gwanwyn-awelon rhwng y brwyn.
Mae’n clywed cân adar mân na chlywodd o ers tro. Mae’n clywed arogl ambell flodyn na chlywodd o ers tro.
Ac yndi, mae’n straffaglu ar yr elltydd. Ond dydy o ddim yn malio dim am hynny. Mi ddaw.
Mi ddaw.
Ac mae gwefr gobaith yn golchi drosto, yn cydio ynddo. Daeth gobaith o’r newydd; mae’r gwynt yn ei hwyliau, a’r olygwedd tuag ymlaen yn un ffafriol. I gynulleidfa ufudd o ddefaid a’u hŵyn newydd-anedig, mae’n ail-gydio yn y morio canu… “mae arwyddion dymunol o’n blaenau.”
Mae’n sylwi ar liwiau. Ar y glesni yn yr awyr, ar y gwyrddni llachar ar ambell esgair, a gwyrddni dyfnach yn garped mewn mannau eraill. Y cennin pedr yn osgeiddig i gyd, yn dwyn fflach o felyn i gyferbynnu â’r cyfan. I gyferbynnu â’r llwydni fu gynt yn eistedd yn isel.
A daw’r cyfan i ben yn llawer rhy fuan, wrth iddo gyrraedd yn ôl adre’. Er, mi fydd o’n falch o baned a chawod gynnes hefyd. Dydy hi ddim cweit yn haf eto. Ond mi ddaw.
Mae’n mynd drwy’r un hen rigmarôl o osod y beic yn erbyn wal y sied, a’i ddadwisgo o’r ategolion niferus.
Wnaeth o’m cyrraedd ’nunlle, ddim mynd i ’nunlle mewn gwirionedd. Mynd, ond er mwyn dod yn ôl.
Onid dyna’r pwynt?