Bydd rhai ohonoch yn ddigon hen i gofio Ron, Hogia Llandegai yn canu am deithio o gwmpas Cymru yn ei fan fach!
Gyda’n gilydd:
Mynd i’r fan a’r fan yn fy fan fach i,
Neb yn gwybod pam ond Samiwel fy nghi!
Crwydro wnawn ymhell ar bnawn ddydd Sadwrn braf,
I Lan Fathafarn Eithaf yn Sir Fôn yr af!
Mae teithio wedi bod yn rhan o’r drafodaeth trwy gydol y tymor yn enwedig gyda sôn yr wythnos hon am Stategaeth Cymru Premier.
Wrth gyflwyno’r strategaeth mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyfeirio at sawl ‘piler’ allweddol:
- Fformat cystadleuaeth gyffrous
- Cryfhau Gweinyddiaeth y Gynghrair
- Proffesiynoli gweinyddiaeth clwb
- Adeiladu ymwybyddiaeth brand y gynghrair
- Ymgysylltu â chymunedau
- Gwella Safonau Ar y Cae
- Datblygu cyfleusterau
- Cryfhau portffolio masnachol
Dwi ddim am geisio dadansoddi’r holl strategaeth yma – yn wir, mae angen llawer o asgwrn ar y cig i wneud hynny. Fodd bynnag, dwi am fynd ati i ystyried un elfen yn unig – sef teithio!
Yn ôl y Gymdeithas:
‘Mae tymor 2026/27 yn foment hollbwysig gyda lansiad fformat Premier Cymru ar ei newydd wedd. Bydd manylion y strwythur cynghrair newydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2024, gan arwain at y newid cyffrous i bêl-droed nos Wener, gan gynnig profiad diwrnod gêm bywiog i gefnogwyr’.
Mae ‘na peth rhinwedd i gemau nos Wener ond mae’r mater ymhell o fod yn syml! Un dadl gan Jack Sharp, Pennaeth Cynghreiriau Domestig, Cymdeithas Bêl-droed Cymru yw bod dros 80% o glybiau o fewn awr i glybiau proffesiynol yr English Football League (EFL).
Wedi dweud hynny, mae’n werth nodi bod cynlluniau ar droed i gynyddu’r niferoedd o gemau EFL fydd yn cael eu darlledu ac hynny’n golygu’r posibilrwydd na fydd gemau bob amser ar brynhawniau Sadwrn. Eisoes mae rhai o glybiau Cymru yn chwarae ar nosweithiau Gwener ac efallai bod rhai ohonoch chi yn y gêm ar y Cae Ras lai na mis yn ôl pan gurodd y tîm cartref Mansfield Town o ddwy gôl i ddim?
Ystyriaeth yr un mor bwysig, os nad pwysicach efallai, yw bod miloedd ar filoedd yn chwarae pêl-droed neu’n gwirfoddoli oddi ar y cae i’w clybiau ar brynhawniau Sadwrn ac yn hynny o beth gallai pwyslais ar gemau nos Wener gynyddu’r dorf.
Fodd bynnag, mae ‘na nifer o ffactorau eraill i’w hystyried.
Y Tywydd:
Un o nodweddion pwysicaf torfeydd pêl-droed yw y cefnogwyr sydd wedi bod yn dilyn y clwb ers degawdau. Ffynhonnell pob atgof a’r edefyn hwnnw sy’n ddoe, heddiw ac yfory. Efallai nad yw’r niferoedd yn uchel ond mae gan y gymuned gyfrifoldeb i sicrhau eu lles ac mae’n ddigon posib nad gêm nos Wener ar noson oer, gaeafol yw’r ‘awyrgylch’ orau ar eu cyfer hwy.
Cyd-bwysedd bywyd:
Wrth gyfweld Jack Sharp ar ran Sgorio, holodd Sioned Dafydd am elfen o deithio gyda chwaraewyr a hyfforddwyr pob Clwb ond un â swyddi ar ben eu hymrwymiadau pêl-droed. Roedd yr ateb yn annelwig wrth oddi sôn am ‘gyfnod trawsnewid’ ble bydd angen i’r clybiau gnoi cil ar eu trefniadau. Nid yn unig mae’n rhaid ystyried y chwaraewyr a’r hyfforddwyr ond mae’n rhaid i ni hefyd feddwl am y cefnogwyr sy’n teithio i bob cwr o’r wlad yn dilyn eu timau. Ar ôl wythnos galed fydda nhw am deithio o un pen o Gymru i’r llall wythnos ar ôl wythnos.
Effaith ar Haen 2 a 3:
Sgwn i os bydd rhai chwaraewyr yn penderfynu nad yw’r pwyslais ar gemau nos Wener yn cyd-fynd gyda’u ymrwymiadau gwaith a theuluol. Fydd hynny ddim yn gadarnhaol i ddatblygiad personol y chwaraewyr ond efallai y bydd hyn yn arwain at godi safonau yn Haen 2 a 3. Wedi dweud hynny, mae’r teithio yn gallu bod affwysol yn yr haenau hyn ac yn wir rhai is ac efallai mai dyma’r amser i ail-edrych ar y cynghreiriau! Oes synnwyr bod Bow Street yn chwarae yng Nghynghrair y Gogledd-ddwyrain yn erbyn timau fel Rhos Aelwyd, Penycae a Chefn Albion?
Fel un sy’n ymwneud â chlwb yn Uwch-gynghrair Cymru dwi’n grediniol bod yr elfen i ‘ymgysylltu â chymunedau’ yn mynd i fod yn gwbl allweddol. Mae gan pob clwb nifer o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino ar ran y timau sy’n cynnwyd merched, dynion, anabl, academi yn ogystal â thimau a chynghreiriau ieuenctid. Mae peth o’r gwaith yn gyhoeddus a llawer o’r gwaith tu ôl yn llenni yn codi arian, yn sicrhau bod lle priodol yn nhrefniadau’r clybiau, yn codi delwedd gyhoeddus y clybiau ymysg llawer o bethau eraill.
Yn ddi-os mae angen cyngor ac arweiniad ymarferol ac arbenigol ar y clybiau ac mae rhan o ohonof yn gweld y pileri yn rhai defnyddiol, yn wir yn rhai gwerthfawr, ac yn gosod sail gadarn ar gyfer dyfodol haen uchaf pyramid pêl-droed Cymru.
Y Ffordd i’r Ffeinal:
Mae llawer o sôn am greu cynghrair rhanbarthol de a’r gogledd ond mae’n deg dweud nad yw hynny’n dderbyniol gan UEFA a byddai hefyd yn andwyol i’r ddelwedd o Gynghrair Cenedlaethol. Fodd bynnag, dwi’n credu bod adegau ble mae angen i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fod yn bragmatig. Daw hynny gyda threfniadau gemau a hefyd manteisio ar y cyfle i fod yn greadigol gyda gemau cwpan.
Mae ‘na adegau pan mae penderfyniadau rhyfedd wedi eu gwneud a does dim llawer rhyfeddach na lleoliad ffeinal Cwpan Cymru dydd Sul. Bydd Crwydriaid Cei Conna yn wynebu Y Sentiau Newydd, dau glwb sydd rhyw 35 milltir oddi wrth ei gilydd, ar gae Rodney Parade yng Nghasnewydd. Y ffordd fyrraf i gefnogwyr y Crwydriaid i gyrraedd yw trwy grombil Birmingham neu os ydych chi am gael rhywfaint o olygfa ar eich taith – heibio i’r Amwythig a Henffordd.
Mae rhywun yn teimlo mai torf fechan fydd yn teithio mor bell – a hynny’n gwneud dim lles o gwbl i ddelwedd y Cymru Premier.
Welwn i chi yno!