Ugain mlynedd yn ôl sefydlwyd rhanbarthau rygbi Cymru, pump ohonyn nhw, i gystadlu yn y gynghrair Geltaidd fel oedd hi.
Nid pawb oedd yn hapus gyda’r newyddion, y clybiau traddodiadol fel Caerdydd, Llanelli, Castell-nedd a Chasnewydd, a fu’n cynrychioli Cymru ar y llwyfan mwyaf oll ym myd rygbi domestig yn colli eu lle i ranbarthau newydd – hunaniaethau newydd oedd i bob pwrpas yn golygu dim i neb ar y pryd.