Roedd hi’n ddiwrnod gwlyb a diflas wrth i ni groesawu blwyddyn newydd ond er gwaetha’r tywydd garw roedd hi’n ddiwrnod da i Aaron Wainwright a’r Dreigiau.

Ar ddiwrnod y darbis Cymreig, y Dreigiau oedd yn croesawu’r Scarlets i Rodney Parade ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn gan obeithio gwneud yn iawn am y chwalfa yn erbyn Caerdydd mond chwe diwrnod ynghynt.