Roedd hi’n benwythnos hanesyddol i’r Gweilch ar Gae’r Bragdy, buddugoliaeth dros Sale Sharks a chyfle i gystadlu yn rowndiau ail gyfle Ewrop!
Er i’r rhanbarth ennill y gynghrair ar bedwar achlysur, yn 2005, 2007, 2010 a 2012, penwythnos dieethaf oedd y tro cyntaf iddynt ennill gêm ail gyfle yn Ewrop.
Cafodd torf egnïol modd i fyw ym Mhen-y-bont nos Sadwrn wrth i’r Gweilch sicrhau buddugoliaeth o 23-15 dros Sale Sharks yng ngêm Rownd yr 16 olaf.
Y cam nesaf i’r Gweilch ar y daith Ewropeaidd yw wynebu Caerloyw yn Kingsholm heno gyda’r gobaith o gyrraedd y rownd cyn derfynol.
Tymor y Gweilch hyd yn hyn
Mae’r Gweilch yn mwynhau tymor digon llewyrchus. Yr unig ranbarth yng Nghymru sy’n dal i fod yn brwydro am rywbeth yn y gystadleuaeth Ewropeaidd ac yn y gynghrair.
Gyda saith buddugoliaeth o 13 gêm ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig, a buddugoliaeth fawr dros Emirates Lions yn rownd ddiwethaf, mae’r Gweilch yn y seithfed safle ar hyn o bryd ac yn dal i fod yn y ras i orffen yn yr wyth uchaf a chymhwyso ar gyfer Cwpan Pencampwyr Ewrop tymor nesaf.
Mae’r Gweilch ymhlith y tri tîm gorau yn y Cwpan Her y tymor hwn am ennill y bêl yn ôl wrth y gwrthwynebwyr, cyfartaledd o 7.6 gwaith ym mhob 80 munud.
Fe fydd y rhanbarth yn gobeithio gweld y lein yn gweithredu’n dda hefyd heno, mae’r ardal yma o chwarae wedi bod yn arf pwysig iawn iddynt yn y gystadleuaeth hyd yma.
Tymor Caerloyw hyd yn hyn
Yn wahanol iawn i’r Gweilch, mae Caerloyw wedi ennill y gystadleuaeth ar ddau achlysur, yn 2006 a 2015.
Mae wedi bod yn dymor cymysg i Gaerloyw hyd yma, ail safle ar ôl y gemau grwp yng Nghwpan Her Ewrop ar ôl sicrhau buddugoliaeth ym mhob gêm ond yn nawfed allan o ddeg ym Uwchgynghrair Gallagher.
Pedair buddugoliaeth allan o 14 gem yn y gynghrair yn dweud stori wahanol iawn i’w llwyddiannau yn Ewrop, ond fel ry’n ni wedi gweld droeon, mae hyd a lledrith y gystadleuaeth yma’n gallu gwneud pethau rhyfedd i dimau.
Mae’r tîm wedi sicrhau buddugoliaethau dros Black Lion, Clermont Auvergne a Castres yn Ewrop ac wedi ennill Cwpan yr Uwch Gynghrair yn barod y tymor hwn – llwyddiant sydd i weld wedi tanio’u tymor.
Un peth sy’n sicr yw bod Caerloyw yn mwynhau chwarae gemau Ewropeaidd yn Kingsholm felly mae talcen caled yn wynebu’r Gweilch.
Cymry Caerloyw
Mae’r garfan yn frith o dalent ac ymhlith y pymtheg bydd yn dechrau’r gêm heno y mae dau Gymro Cymraeg, y mewnwr Stephen Varney a’r canolwr Max Llewellyn.
Yn wreiddiol o Grymych, mae Varney yn ôl gyda’i glwb yn dilyn pencampwriaeth Chwe Gwlad hanesyddol i’r Eidal. Yn fab i fam Eidalaidd a thad o Gymru, penderfynodd Varney cynrychioli gwlad genedigol ei fam. Mae e’n llawn bwrlwm ac yn chwaraewr allweddol i dîm Caerloyw. Un bydd angen i’r Gweilch gadw llygad arno.
Ymunodd Llewellyn â Chaerloyw haf diwethaf o Gaerdydd ac mae wedi gwneud argraff ers ymuno â’r tîm yn Kingsholm. Cred George Skivington, Cyfarwyddwr Rygbi Caerloyw, bod Llewellyn yn y safle perffaith i lenwi’r bwlch yng ngharfan Cymru sydd wedi ei adael ar ôl gan ymddeoliad George North.
Wyneb yn wyneb
Er mai dyma’r tro cyntaf i’r ddau dîm wynebu ei gilydd yng Nghwpan Her Ewrop mae yna ddigon o hanes yn bodoli rhwng y timau. Mae’r Gweilch wedi wynebu Caerloyw ar ddeg achlysur mewn cystadleuthau eraill. O’r deg gêm yna mae’r Gweilch wedi sicrhau pedwar buddugoliaeth.
Y Timau
Caerloyw
15 Santiago Carreras, 14 Jonny May, 13 Max Llewellyn, 12 Seb Atkinson, 11 Jacob Morris, 10 Adam Hastings, 9 Stephen Varney, 1 Jama; Ford-Robinson, 2 Seb Blake, 3 Kirill Gotovtsev, 4 Freddie Clarke, 5 Freddie Thomas, 6 Ruan Ackermann, 7 Lewis Ludlow (c), 8 Zach Mercer
Eilyddion: 16 Santiago Socino, 17 Mayco Vivas, 18 Fraser Balmain, 19 Albert Tuisue, 20 Jack Clement, 21 Caolan Englefield, 22 Charlie Atkinson, 23 Chris Harris
Gweilch
15 Jack Walsh, 14 Luke Morgan, 13 Kieran Williams, 12 Owen Watkin, 11 Keelan Giles, 10 Owen Williams, 9 Reuben Morgan-Williams, 1 Gareth Thomas, 2Sam Parry, 3 Tom Botha, 4 James Ratti, 5 Adam Beard, 6 Harri Deaves, 7 Justin Tipuric (c), 8 Morgan Morris
Eilyddion: 16 Lewis Lloyd, 17 Nicky Smith, 18 Rhys Henry, 19 Huw Sutton, 20 Morgan Morse, 21 Luke Davies, 22 Dan Edwards, 23 Max Nagy