Mae Ken Owens a Josh Turnbull wedi ymuno ag Alun Wyn Jones yn cyhoeddi eu hymddeoliadau o rygbi y tymor yma.

Josh Turnbull

Gyda’r tymor yn gyflym ddirwyn i ben aeth Turnbull ati ar ddechrau’r wythnos i gyhoeddoi ei fod am ymddeol o chwarae rygbi, a hynny yn syth.

Mae’r gwr, yn wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn, wedi chwarae 334 o gemau ar y lefel uchaf, yn gyntaf gyda’r Scarlets ac yna gyda Rygbi Caerdydd.

Symudodd i ymuno â thîm y brif ddinas yn 2014 ac roed dyn rhan allweddol o lwyddiant y rhanbarth yng Nghwpan Her Ewrop yn 2018.

Chwaraeodd ei 200fed gêm i Gaerdydd nôl ym mis Mawrth, ac mae’n alwg erbyn hyn mai dyna oedd ei gêm olaf fel chwaraewr hefyd.

Fe fydd y gwr 36 mlwydd oed yn awr yn symud i rôl hyfforddi yn academi Caerdydd.

Wrth ymateb i’r penderfyniad dywedodd Turnbull; “Mae wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i ddod â fy ngyrfa i ben, cyfnod sydd wedi mynd mor gyflym, ond rwy’n gyfforddus mai dyma’r penderfyniad cywir i fi a fy nheulu.

“Mae cyrraedd 200 o gemau i Gaerdydd wedi bod yn darged ac yn ysgogiad mawr i fi ac roedd yn anrhydedd gwneud hynny ychydig wythnosau’n ôl ar Barc yr Arfau gyda chynifer o ffrindiau a theulu yn bresennol.

“Mae rygbi wedi rhoi gymaint i fi – rwyf wedi teithio’r byd, wedi gwneud ffrindiau anhygoel, ac mae gyda fi gymaint o atgofion o fy amser gyda Chaerdydd a’r Scarlets.

“Rwy’n ddiolchgawr iawn i bawb sydd wedi chwarae rahn yn fy nhaith, boed yn athrawon, hyfforddwyr, staff cefnogol, cefnogwyr, ac wrth gwrs fy nheulu.

“Gyda bron i 350 o gemau proffesiynol fel profiad, rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’r bennod nesaf yn fy ngyrfa, ac rwy’n ddiolchgar iawn i Gaerdydd am y cyfle i barhau i hyfforddi yn system yr academi yma.

“Mae yna lot fawr o dalent yn y rhanbarth; mae hyn o weld yn y chwaraewyr sydd wedi dod trwy’r system eleni, ac rwy’n edrych ymlaen at basio’r profiad ymlaen.”

Mae Turnbull wedi bod yn un o’r chwaraewyr mwyaf cyson ers iddo ymuno â’r rhanbarth o Lanelli, gan chwarae cyfartaledd o 23 gêm y tymor, ar wahan i dymor lle bu’n rhaid iddo dderbyn llawdriniaeth ar ei gefn.

Ken Owens

Mewn datganiad yn egluro ei benderfyniad dywedodd Owens, a ddechreuodd chwarae rygbi yng Nghlwb Athletic Caerfyrddin; “Mae’n anodd credu bod yr amser wedi dod i fi gyhoeddi mod i’n ymddeol o rygbi. Mae wedi bod yn gyfnod anodd yn gwylio o ochr y cae ond mae’r amser wedi dod i fi wrando ar gyngor meddygol a rhoi’r gorau i’r yrfa sydd wedi rhoi gymaint i fi.

“Petai’r dewis wedi bod yn fy nwylo i bydden wedi cael y cyfle i chwarae un gêm arall i Gymru, i’r Scarlets ac wrth gwrs i Athletic Caerfyrddin. Cyfle i ddweud hwyl fawr, a’n bwysicach falle, diolch i bawb. Nid fel ‘na oedd pethau i fod. Dim fel hyn bydden i wedi breuddwydio dod â’r cwbwl i ben, ond fi wedi bod yn ffodus tu hwnt o gael gyrfa mae pob plentyn yng Nghymru yn breuddwydio amdano.

“Fi’n siwr bod mwy y gallen i fod wedi gwneud…  ond nes i ddim dychmygu fel plentyn y bydden i wedi cael y profiadau fi wedi cael. Fi wedi bod yn ffodus i chwarae gyda rhai o’r goreuon ac wedi cael amserau gwych yn ennill gyrfa yn chwarae’r gêm arbennig yma.”

Yn unigolyn sy’n driw i’w gynefin, mae Owens yn perthyn i grŵp unigryw o chwaraewyr yn yr oes fodern sydd wedi ymroi ei yrfa broffesiynol i un clwb, gan chwarae 277 o gemau i’r Scarlets mewn gyrfa ugain mlynedd.

Ymunodd ag Academi’r Scarlets yn 2004, ar ôl chwarae i dîm Met Caerdydd (UWIC ar y pryd) gan chwarae ei gêm broffesiynol gyntaf i’r rhanbarth yn 2006. Cafodd ei enwi’n gapten ar gyfer tymor 2014-15 ac fe barhaodd yn y swydd am saith tymor yn olynol, gan dorri record un o arwyr y clwb yn Phil Bennett.

Daeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf ar y llwyfan fwyaf oll gan ddod i’r cae yn erbyn Namibia yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011, y cyntaf o dri Chwpan Byd iddo gael y fraint o chwarae ynddynt (2015 a 2019).

Wrth edrych yn ôl ar ei daith i’r llwyfan rhyngwladol, ychwanegodd Owens; “Mae yna wirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru sy’n gwneud yn siŵr bod y gêm yn llwyddo, fel y’n rhieni i yn yr Athletic, yn rhoi eu hamser a’u hegni i’r gêm. Mae cael y cyfle i chwarae dros Gymru yn rhoi hyd yn oed mwy o ffocws ar y bobl sydd wedi’n cefnogi ni ar ein siwrne. Mae’r miloedd o bobol sy’n cefnogi’r gêm ar lawr gwlad yng Nghymru i gyd yn chwarae rôl holl bwysig. Rwy’n mawr obeithio mod i wedi eu gwneud nhw’n browd ohonai.”

Ym mis Ionawr 2023, ar ôl bron i flwyddyn oddi ar y cae oherwydd anaf i’w gefn, cafodd Owens ei enwi yn gapten Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2023. Chwaraeodd yr olaf o’i 91 gêm i Gymru yn erbyn Ffrainc ym mis Mawrth 2023.

Cafodd ei enwi yng ngharfan Warren Gatland ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2017. Roedd yn gapten ar y tîm yn y gêm yn erbyn y Blues ac roedd yn aelod o’r tîm a chwaraeodd yn y gêm hanesyddol yna i ddod â’r daith yn gyfartal. Teithiodd gyda’r Llewod i Dde Affrica yn 2021 hefyd, gan chwarae pob un o’r tair gêm brawf yn erbyn y Springboks.

Yn un sydd yn hapus yn arwain o’r blaen, fe fydd y llwyfan rhanbarthol a rhyngwladol yn gweld eisiau sgiliau arweinyddol Owens.

Mae ei lwyddiant, meddai, yn gynnyrch o’r gefnogaeth a gafodd dros y blynyddoedd. Aeth ymlaen i ddweud; “Mae yna sawl diolch hoffen i wneud. Mae mam a dad wedi cefnogi fi o’r funud cynta y dechreuais i chwarae. Cafodd yn chwaer i, Vick, gap cyn fi ac er bod e’n hen newyddion erbyn i fi wneud, wnaethon nhw barhau i annog fi ar fy nhaith.

“Ges i gymaint gan fy nghlwb, Athletic Caerfyrddin. Dechrau gwych i rygbi a ffrindiau oes. Does dim digon allai ddweud i ddiolch i chi gyd.

“Fe wnaeth y Scarlets gredu yno fi 19 mlynedd yn ôl ac rwy’n gobeithio mod i wedi ad-dalu’r ffydd wnaethoch chi ddangos.

“Mae chwarae 91 o weithiau i Gymru wedi bod yn anrhydedd allai byth ddisgrifio. Cael tynnu crys y Llewod ymlaen, does dim geiriau.

“Bydde hyn i gyd ddim wedi bod yn bosib heb gefnogaeth fy ngwraig. Carys, diolch. Diolch am atgoffa fi o’r hyn sy’n bwysig. I’r bois, Efan a Talfan, diolch am gwblhau ein teulu.

“Diolch hefyd i’r hyfforddwyr a’r staff cefnogol, mae pawb wedi chwarae rôl mor bwysig.”

Yn adnabyddus i bawb fel y Sheriff, mae Owens yn hynod o falch o’i gynefin ac yn falch iawn o gynrychioli ei deulu a’i gymuned ehangach.

“Mae’r filltir sgwar mor bwysig i fi ac mae gweld yr un angerdd yng ngwynebau cefnogwyr, wrth i fi gynrychioli’r clwb a Chymru, wedi bod yn anrhydedd mawr. Diolch i chi gyd.

“Byddai’n cymryd amser i edrych yn ôl ar yr amseroedd da cyn penderfynu beth i wneud nesaf. Os allai rhoi canran nôl o’r hyn i fi wedi gael o’r gymuned a’r gêm byddai’n ddyn prowd iawn.”