Fe fydd Pencampwriaeth Rali’r Byd yn dychwelyd penwythnos nesaf (28-31 Mawrth) gyda’r cyffro ar bedair olwyn yn symud ymlaen i Affrica.

Ar ôl dwy rownd o bencampwriaeth 2024, yn Monte-Carlo a Sweden, mae’r Cymro Elfyn Evans yn sefyll yn yr ail safle ar 45 pwynt, tri phwynt tu ôl i’r ceffyl blaen Thierry Neuville, y gŵr o wlad Belg sy’n enwog am ei sbectol ac oriorau lliwgar.