Ychydig dros fis yn ôl roeddwn yn reit hyderus yn proffwydo pwy fyddai pencampwyr cynghreiriau’r de a’r gogledd wrth i’r timau anelu at gyrraedd y Cymru Premier tymor nesaf. Yn y de: Llanelli! Yn y gogledd: Treffynnon! Fis yn ddiweddarach dyna brofi mod i’n ‘Dallt Dim’!
Ble mae dechrau d’wch?
Cwymp Llanelli sydd fwyaf trawiadol a hwythau ar un adeg yn edrych fel y ceffylau blaen yn y ras i frig y Cymru South! Daeth tro ar fyd wrth iddyn nhw golli dwy o’u pum gêm ddiweddaraf yn erbyn Cwmbrân Celtic a Goytre United. Roedd y ddau ganlyniad yn dipyn o sioc ac i roi halen ar y briw bu i’r Cochion golli i Briton Ferry Llansawel yn rownd derfynol, ranbarthol Cwpan y Gynghrair!
Roedd rhai wedi proffwydo y byddai’r ras yn parhau hyd gêm olaf y tymor rhwng Llanelli a Briton Ferry Llansawel ond mae tymor Y Fferi wedi mynd o nerth o nerth wrth iddyn nhw fynd o un fuddugoliaeth i’r llall. Erbyn hyn mae pawb yno wedi anghofio pryderon mis Chwefror pan fu iddyn nhw golli dwy gêm o’r bron i Rydaman a Cambrian & Clydach. Bydd y gêm olaf oddi cartref yn erbyn Llanelli nawr yn gyfle iddyn nhw ddathlu eu dyrchafiad beth bynnag y sgôr ac i edrych ymlaen at ffeinal cenedlaethol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Mold Alexandra.
Gall fod tynged clybiau’r gogledd wedi digwydd oddi ar y cae wrth i Dreffynnon fethu yn eu cais am Drwydded Haen 1 fyddai wedi eu gosod mewn sefyllfa gref i ennill dyrchafiad a hwythau’n parhau i fod ddau pwynt ar y blaen i Airbus UK Broughton gyda dwy gêm mewn llaw. Gyda thair gêm ar ôl gan y Wellmen a dwy ohonyn nhw yn erbyn Porthmadog a Llanidloes, ill dau wrth droed y Gynghrair, roedd yr argoelion yn gadarnhaol nes i’r newyddion drwg eu cyrraedd.
Os na fydd Treffynnon yn apelio yna bydd dau dîm arall yn aros yn eiddgar i gymryd eu lle! Mae gan Airbus un gêm yn weddill yn erbyn Cegidfa a’r Fflint gyda thair gêm yn weddill yn erbyn Llanidloes, Y Wyddgrug a Dinbych a hwythau dri phwynt tu ôl i Dreffynnon. Fodd bynnag, wrth i mi ysgrifennu’r llith hwn, mae cyfle’n parhau i Dreffynnon apelio yn erbyn y dyfarniad ac mae hynny’n wir hefyd am Bontypridd – yr unig dîm yn y Cymru Premier i golli eu trwydded Haen 1.
Cyn cloi, mae gwerth bwrw golwg sydyn ar waelod y Cymru Premier. Cafwyd gêm dynn gynddeiriog rhwng Ponty a Thref Aberystwyth nos Fawrth – gêm oedd wedi ei ail-threfnu oherwydd anallu’r ymwelwyr i sicrhau Ffisiotherapydd pan oedd y gêm i’w chwarae’n wreiddiol. Er bod Aber lawr i ddeg dyn ar ôl 79 munud arhosodd y gêm yn ddi-sgôr ar y chwiban olaf a hynny’n gosod y tîm cartref mewn safle i ddisgyn o’r Uwch-gynghrair.
Amser a ddengys os fydd Pontypridd yn teimlo bod lle ganddynt i apelio yn erbyn dyfarniad y drwydded ond mae Bae Colwyn yn parhau gyda gobaith o aros i fyny a hwythau ond deubwynt tu ôl y Gwyrdd a Du a gyda’r un nifer o bwyntiau â Phontypridd. Efallai mai’r frwydr ar gae Prifysgol De Cymru a’r gôl fuddugol yn yr eiliadau olaf oddi cartref yn erbyn Bae Colwyn fydd yn cadw Aber rhag disgyn ond – peth peryglus yw proffwydo!