Mae darpar unigolion creadigol ar fin cychwyn ar daith drawsnewidiol wrth i’r cyflwynydd teledu a radio adnabyddus Jason Mohammad a’i gwmni, Team Boundless, uno â Whisper, cwmni cynhyrchu chwaraeon ac adloniant blaenllaw, i lansio’r Bŵtcamp Cyfryngau Creadigol cyntaf.

Fel rhan o Raglen Sgiliau Clwstwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), mae’r Bŵtcamp Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, a reolir gan  Goleg Caerdydd a’r Fro (CCAF), yn gwrs sgiliau diwydiant arloesol sy’n barod i chwyldroi’r tirlun ar gyfer talent newydd sy’n ceisio gyrfa ym myd deinamig y cyfryngau ac adloniant.

Lluniwyd y Bŵtcamp unigryw hwn gan Whisper, Team Boundless, a Tramshed Tech a bydd yn cael ei gyflwyno gan dîm arbenigol sydd â blynyddoedd o brofiad yn trawsnewid ’talent newydd’ yn weithwyr proffesiynol medrus o fewn ychydig wythnosau.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu’r sgiliau hanfodol ac yn ennill dealltwriaeth werthfawr o’r hyn sy’n angenrheidiol i ffynnu yn y diwydiannau creadigol, gyda ffocws ar gynhyrchu rhaglenni chwaraeon byw.

Mae Jason Mohammad, sy’n hen law ar weithio yn y diwydiant, yn dod â’i gyfoeth o brofiad i fentora a thywys cyfranogwyr drwy’r rhaglen ddwys.

Mae Whisper yn dod ag arbenigedd diwydiant blaengar i’r bŵtcamp a bydd yn darparu cyfleoedd i fynychwyr gysylltu â gweithwyr proffesiynol ac unigolion dylanwadol y diwydiant.

Cynhyrchu’r sgiliau sydd eu hangen i fodloni’r galw o fewn y diwydiant

Dywed Rowena O’Sullivan, Rheolwr Sgiliau a Thalent Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Mae’r Rhaglen Bŵtcamp Creadigol yn cynnig cyfle unigryw i unigolion sydd eisiau dilyn gyrfa yn y sector creadigol ar draws y Rhanbarth i gysylltu ag unigolion blaenllaw’r diwydiant a gweithio ar brosiectau byd go iawn ac rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau carfan amrywiol a chynhwysol o ddysgwyr.”

Mae creadigedd, arloesedd, a chydweithrediad yn elfennau annatod sy’n sbarduno ac yn ysbrydoli’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, felly rydym yn hynod falch ein bod wedi dod ag arbenigwyr diwydiant ynghyd sy’n cael eu cydnabod fel arweinwyr sgiliau o fewn eu maes penodol – gyda phob un o’r timau hyn yn darparu’r rhaglenni datblygu gorau posib, sydd wedi’u profi i alluogi dysgwyr i gyrraedd lefel lle mae modd iddynt ddylanwadu’n syth ar y gweithle.

“Bydd y Bŵtcamp Creadigol yn helpu i gynhyrchu’r setiau sgiliau sy’n pŵeru busnesau’r dyfodol yn Ne Ddwyrain Cymru – gan baratoi’r gronfa dalent a fydd yn helpu i sicrhau bod y rhanbarth cysylltiol, cystadleuol a gwydn a fanylwyd yng Nghynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer De Ddwyrain Cymru yn cael ei wireddu.”

Dywedodd James Scorey, Is-Bennaeth Datblygu Busnes yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, “Dyma enghraifft wych o ymgysylltiad targedig Coleg Caerdydd a’r Fro â chyflogwyr a rhanddeiliaid ledled y sectorau blaenoriaeth ac mae’n dangos sut allwn ddefnyddio cyllid ac adnoddau i lenwi’r bylchau sgiliau a chynyddu’r gronfa dalent lle mae fwyaf ei angen.

Dywedodd Carys Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper: “Mae Whisper yn edrych ymlaen yn eiddgar i ddod â’r bŵtcamp unigryw hwn yn fyw a chyfoethogi’r profiad Academi Whisper presennol. Rydym yn dyst i bŵer mentoriaeth a hyfforddiant ymarferol a’r ffordd y gall ddylanwadu’n gadarnhaol ar ddyfodol y diwydiannau creadigol.  Gyda’r Gemau Paralympaidd yn cael eu cynhyrchu o bell o Gaerdydd yr Hydref hwn, mae’n hwb enfawr i’r economi leol yn ogystal â chynnig cyfleoedd swyddi i’r darlledwyr byw yn y dyfodol mewn amgylchedd hygyrch.”

Jason Mohammad: “Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i weithio â CCR, Whisper, Tramshed a CCAF ar y prosiect newydd hwn. Rydym yn barod i gynnig dosbarthiadau meistr a chyfleoedd gwych drwy ddefnyddio ein profiad helaeth o deledu a darlledu byw. Ein bwriad yw rhoi cyfle i bobl ddysgu sut i gyflwyno, cyfarwyddo a chynhyrchu sioeau, yn ogystal â llu o bethau eraill. Rydym yn gobeithio ysbrydoli a chreu rolau i bobl. Peidiwch â cholli’r cyfle i fynychu’r bŵtcamp anhygoel hwn.

Wedi’i ariannu gan Brifddinas-Rhanbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, mae croeso i unrhyw un wneud cais – p’un a ydych yn dychwelyd i yrfa, yn newid gyrfa, yn raddedig, neu newydd adael addysg…

Sut i gymryd rhan:

Mae ceisiadau ar gyfer y Bŵtcamp Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol bellach ar agor. Mae modd i unigolion sydd â diddordeb wneud cais drwy wefan Coleg Caerdydd a’r Fro Bŵtcamp Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol.