Mae wedi bod yn gyfnod rhwystredig iawn i Alex Cuthbert, wedi gorfod gwylio’r Chwe Gwlad o’r ystlys yn hytrach na rhedeg ar ei hyd. Ond, er gwaetha’r cyfnod yn delio gydag anafiadau, mae asgellwr y Gweilch a Chymru wedi dod o hyd i ddigon o bethau i’w gadw’n brysur oddi ar y cae.

Wrth iddo wella o anafiadau i’w droed a’i goes, fe benderfynodd Cuthbert wynebu ei herio wyneb yn wyneb a chadw ei hun yn brysur yn astudio cymhwysterau hyfforddi ac yn ymddangos yn reolaidd fel pyndit teledu.