Mae Gemau Olympaidd Paris bellach llai na 100 diwrnod i ffwrdd gydag athletwyr, hyfforddwyr, teulu a ffrindiau i gyd yn paratoi am bythefnos o gystadlu, cefnogi a mwynhad ym mhrif ddinas Ffrainc.

Ymhlith yr athletwyr sydd wedi cael cadarnhad eu bod am gystadlu yng Ngemau Olympaidd 2024 y mae Medi Harris, Matthew Richards, Daniel Jervis, Kieran Bird a Hector Pardoe.

Fe fydd Harris, Richards, Jervis a Bird yn rhan o dîm Prydain Fawr yn y pwll Olympaidd tra y bydd Pardoe yn cystadlu yn y dŵr agored.

Enillodd Matt Richards, oedd yn 18 ar y pryd, fedal aur tair blynedd yn ôl yng Ngemau Olympaidd Tokyo fel aelod o dîm ras gyfnewid Prydain Fawr. Dyma oedd y fedal aur cyntaf i Gymro yn y pwll am 109 o flynyddoedd.

Yn bencampwr byd yn 2023, a gyda pherfformiadau arbennig yn y Pencampwriaeth Nofio Speedo diweddar, mae wedi cymhwyso ar gyfer ras 50m, 100m a 200m rhydd yn y Gemau yn ogystal â bod yn rhan o’r tîm cyfnewid unwaith eto. Fe fydd y gwr 21 mlwydd oed yn gobeithio creu hanes i Gymru, ac i Brydain Fawr yn y Gemau eleni.

Yn dychwelyd i’r Gemau Olympaidd am yr ail dro hefyd y mae Daniel Jervis. Yn arbenigo mewn rasys pellter fe orffennodd yn y pumed safle yng Ngemau Tokyo yn y ras 1500m ond bu rhaid iddo golli Gemau’r Gymanwalad 2022 oherwydd Covid-19. Ar ôl gwella o’r afiechyd a dychwelyd i’r pwll cipiodd Jervis y teitl Prydeinig y llynedd.

Dywedodd Jervis; “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at baratoi am y Gemau. Dyw e ddim yn deimlad i chi’n dod i arfer ag ef, mae’r gefnogaeth gan fy nheulu a ffrindiau wedi bod yn wych ac rwy’n ffodus iawn.

“Dyw pethau ddim wedi bod yn hawdd ers Tokyo, dyna oedd profiad gorau fy ngyrfa. Mae wedi bod yn eitha’ anodd ers hynny, roeddwn i eisiau ennill medal dda yng Ngemau’r Gymanwlad ond cafodd hynny ei dynnu oddi wrthai. Roeddwn i eisiau profi mod i’n gallu goresgyn yr heriau yma ond doedd hynny ddim yn edrych yn bosib am gyfnod hir.”

Enillodd Bird, oedd hefyd yn cystadlu yn Japan, deitl 400m Prydain yn y London Aquatics Centre ond fe fethodd yr amser enwebu o ddau ddegfed ran o eiliad. Fodd bynnag, mae ei lwyddiant yn y 400m wedi sicrhau ei le yn y tîm Olympaidd.

Bydd Medi Harris o Borthmadog yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn Ffrainc ar ôl hawlio medalau’r Gymanwlad, Ewrop a’r Byd ers y Gemau diwethaf. Cymhwysodd yr arbenigwr Backstroke fel rhan o dîm ras gyfnewid Dull Rhydd 4x200m y Merched yn y London Aquatics Centre.

Tu hwnt i’r pwll, mae Hector Pardoe yn mynd i’w ail Gemau Olympaidd hefyd ar ôl i anaf i’w lygaid atal ei daith i’r podiwm yn Tokyo. Mae’r nofiwr, sy’n enedigol o Wrecsam, yn dychwelyd i’r llwyfan mwyaf ar ôl hawlio medal efydd ym Mhencampwriaethau Byd yn Doha.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Nofio Cymru, Fergus Feeney: “Rydym mor falch o bob un o’r athletwyr a ddewiswyd ar gyfer Gemau Olympaidd Paris 2024. Mae’r ffaith bod nofwyr Cymru yn cyfrif am fwy na 15 y cant o’r tîm Prydeinig yn gamp anhygoel i’n cenedl fach. Mae’n dyst i gydymdrechion yr athletwyr, hyfforddwyr, teuluoedd ar draws y gymuned gyfan yng Nghymru a thu hwnt.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd Medi, Matthew, Daniel, Kieran & Hector yn ysbrydoli’r genedl a chenedlaethau’r dyfodol o nofwyr gyda’u perfformiadau ym Mharis. Mae eu talent, eu gwaith caled a’u hymroddiad wedi ennill eu lle ar Dîm Prydain Fawr, a dymunaf bob lwc iddynt yn eu paratoadau terfynol ar gyfer y Gemau.”ŵ