Fe fydd tad un o enwau mawr Formula 1 yn cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Rali Prydain Probite, yng Nghymalau Dyffryn Hafren Rallynuts fory (13 Ebrill).
Mae’r cyn yrrwr F1 Jos Verstappen, tad y pencampwr a gyrrwr Red Bull Racing Max, yn gyrru yn y bencampwriaeth yn y DU am y tro cyntaf erioed ac yn taclo’r graean byd-enwog am y tro cyntaf.
Bydd Verstappen yn gyrru Skoda Fabia RS Rally2 gyda’i gyd-yrrwr Renaud Jamoul.
Mae Cymalau Dyffryn Hafren yn nodi’r newid i raean ar gyfer y BRC sydd wedi’i adfywio ac mae’n cynnig dros chwe deg dau o filltiroedd o lwyfannau Rali Cymru Prydain Fawr gan gynnwys Myherin a Hafren.
Mae Verstappen wedi mwynhau gyrfa ralio flaengar ers ei ddigwyddiad cyntaf ar y cymalau yn 2022. Wrth fynd i’r afael â Phencampwriaeth Rali Gwlad Belg, sicrhaodd y gyrrwr o’r Iseldiroedd bedwerydd yn y gyfres y tymor hwnnw, hyd yn oed yn llwyddo i gystadlu yn ei rownd gyntaf erioed ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd FIA yn Ypres.
Profodd y trawsnewidiad y llynedd i’r Skoda Fabia yn ffrwythlon, gan selio tair buddugoliaeth rali gyffredinol ar y ffyrdd caeedig yng Ngwlad Belg, yr Almaen, a’r Iseldiroedd, gyda dwy arall yn barod y tymor hwn.
Ond er ei fod wedi 23 rali hyd yn hyn, nid yw Verstappen erioed wedi cystadlu mewn digwyddiad graean ac fe fydd yn mynd i galon Cymru am ei brofiad cyntaf o lwyfannau coedwigoedd Prydain.
“Rydym yn hapus iawn i ddod i Gymru a Phencampwriaeth Rali Prydain,” meddai Verstappen.
“Mae Renaud wedi gwneud Rali Cymru GB sawl gwaith ond i mi, y cymalau yma bydd y cyntaf.”
“Dim ond dwy flynedd yn ôl y dechreuais i ralio ond dim ond mewn digwyddiadau tarmac. Ar ôl dwy sesiwn brawf yn y gaeaf yn ne Ffrainc, rydym wedi penderfynu rhoi cynnig ar ein rali graean go iawn gyntaf a chan fod gan Renaud atgofion da iawn yng Nghymru, roedd y rali hon yn edrych fel yr un orau i ddechrau.
“Byddwn yn cael rhywfaint o gyngor da gan Tom Cave yn ystod ein PET [prawf cyn y digwyddiad] a byddwn yn ceisio gwneud ein gorau. Nid oes unrhyw gynllun o ran perfformiad oherwydd dyma fydd fy nhro cyntaf ar y graean ond yn sicr y targed yw gwella a bod mor agos â phosibl at y goreuon.”
Mae arlwy’r bencampwriaeth y tymor hwn yn mwynhau rhestr arbennig o “pwy yw pwy” mewn rali domestig a rhyngwladol ond wrth i’r bencampwriaeth fynd yn ei blaen i’r graean, mae’r ornest sydd eisoes yn anrhagweladwy yn gyfan gwbwl agored ac mae cymalau eiconig y Canolbarth wedi dal hyd yn oed y gyrwyr gorau yn y byd dros y degawdau.
Mae Clerc y Cwrs, Keith Ashley, yn falch iawn o groesawu gyrrwr o safon Verstappen i’r rali.
“Rydym yn gyffrous iawn i weld enw mor adnabyddus yn cymryd rhan yng Nghymalau Dyffryn Hafren eleni,” meddai.
“Mae cael enwau mawr fel hyn yn rhan o’r digwyddiad yn dda i’r gamp yn gyffredinol ac rydym wrth ein bodd gyda’r sylw ychwanegol y mae’n ei roi i’r rali.”
Bydd dechreuad seremoni rali Cymalau Dyffryn Hafren Rallynuts yn dechrau yn Llandrindod am 18:30 heno cyn i’r cyffro ddechrau o ddifrif fory.
Gallwch weld y newyddion diweddaraf ar britishrallychampionship.co.uk