Mae holl gyffro Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn ôl gyda Leinster yn parhau fel ceffylau blaen ar frig y tabl.

Y Scarlets oedd yr unig rhanbarth i sicrhau buddugoliaeth penwythnos diwethaf, a hynny dros Benetton ym Mharc y Scarlets.

Mae ein gobeithion o weld un o’r rhanbarthau yn gorffen yn yr wyth uchaf yn gyflym ddiflannu gyda’r Gweilch wedi syrthio i’r unfed safle ar ddeg ar ôl colli i Munster a Chaeredin.