Mae hi’n fis Mawrth sy’n golygu un peth ym myd Rasio Ceffylau, Gŵyl Rasio Cheltenham. Dyma lle fydd y goreuon o geffylau Prydain, Iwerddon a phedwar ban byd yn cyfarfod am bedwar diwrnod cyffrous o Rasio yn Swydd Gaerloyw.
Bydd y Rasio yn cychwyn Ddydd Mawrth gyda’r Ras agoriadol am 1:30 sef y ‘Supreme Novices Hurdle’. Tra yn y ras 2:50 yr “Ultima Chase” mae ongl Gymraeg gyda Kitty’s Light, ceffyl yr Hyfforddwr Christian Williams o Ben-y-bont a’i joci Jack Tudor, yn rhedeg.
Uchafbwynt y diwrnod agoriadol yw’r 3:30 gyda’r “Champion Hurdle”. Mae’r ras hon bellach yn ras hollol agored, wedi’r siom ddyddiau yn unig cyn yr Wŷl, gyda’r ffefryn clir, ac enillydd y ras yma’r llynedd, Constitution Hill wedi cael ei dynnu allan. Siom i’r Hyfforddwr Nicky Henderson a’i joci Nico De Boinville. Fydd hi’n ddiddorol gweld os all ceffylau Willie Mullins, State Man a Lossiemouth, gymryd mantais heb y seren Constitution Hill.
Ar yr ail ddiwrnod, Dydd Mercher, mae’r Rasys yn cynnwys “Y Coral Cup”, “Champion Bumper” a phrif ras y dydd “Queen Mother Champion Chase”. Ond y Ras Traws Gwlad, y “Glenfarclas Cross Country”, yw ras mwyaf unigryw yr Wŷl. 32 clwyd a ras sydd yn llawn drama bob amser. Bydd diddordeb Cymreig yn y ras gyda cheffyl Peter Bowen a’i fab Sean Bowen, Francky Du Berlais, sydd yn cael tymor llwyddiannus fel joci. Ond ymysg y ceffylau mae enillydd y Cwpan Aur yn 2021, Minella Indo. Mae’r hyfforddwr Gordon Elliott wedi ennill y ras hon 5 gwaith, gan gynnwys 3 gwaith gyda Tiger Roll.
Dydd Iau yw trydydd diwrnod yr Wŷl sydd yn cynnwys y “Ryanair Chase”. O bosib Ras Gradd 1 mwyaf agored dros y 4 diwrnod. Mae enillydd y llynedd, Envoi Allen, yn dychwelyd ond mae rhaid dweud does dim ffefryn clir ar gyfer y Ras. Y “Stayers Hurdle” yw prif ras y dydd, gydag enillydd y Grand National yn 2022 Noble Yeats, ac enillydd y ras hon y llynedd, Sire Du Berlais, yn eu mysg.
Troi at Ddydd Gwener, Diwrnod olaf yr Wŷl a diwrnod y Cwpan Aur. Mae’r Rasys yn cynnwys yr “Albert Bartlett Novices Hurdle” a’r “Triumph Hurdle”. Ond, bydd llygaid pawb ar 3:30 ac uchafbwynt yr Wŷl y “Cheltenham Gold Cup”.
Mae enillydd y llynedd, Galopin des Champs, i weld yn ffefryn i ennill unwaith eto. Ond bydd Shishkin yn gobeithio am well wedi ei anffawd dwy glwyd o’r diwedd yn y “King George” ar Wŷl San Steffan. Bydd enillydd y ras honno, Hewick, yn ceisio dangos mai nad lwc oedd yn gyfrifol y diwrnod yna. Bydd ceffyl Lucinda Russell ac enillydd y Grand National yn Aintree blwyddyn ddiwethaf, Corach Rambler, yn gobeithio gwneud y dwbwl ac ennill y ddwy brif ras ceffylau ym Mhrydain.
Un peth sy’n sicr, mi fydd hi’n bedwar diwrnod cyffrous, gyda’r gorau o rasio ceffylau Prydain ac Iwerddon i’w gweld yn Cheltenham.