“Byddwn yn falch iawn os gawn ni fod yn y 30 uchaf” – dyna eiriau Tom Roberts, capten tîm cyfnewid rhedeg lôn dynion Meirionnydd wrth siarad gyda Chwys wrth baratoi i gystadlu ym Mhencampwriaeth Cyfnewid Rhedeg Lôn Cenedlaethol ym Mirmingham dros y penwythnos.

Fe wnaethon nhw lwyddo i gyflawni’r nod hwnnw’n gyfforddus, gyda’r tîm yn gorffen yn y pedwerydd safle ar hugain ym Mharc Sutton.

Tipyn o gamp i glwb rhedeg bach o Orllewin Cymru oedd yn cystadlu’n erbyn 65 o dimau o ledled Prydain, a llawer iawn o’r rheiny o’r dinasoedd ac ardaleodd llawer mwy poblog.

Clwb enwog Leeds City groesodd y llinell gyntaf ymysg y dynion – clwb sy’n brolio enwau fel Phil Sesemann, fydd yn rhedeg y marathon i Brydain yn y Gemau Olympaidd eleni a Richard Allen a enillodd ras fawr Trafford 10k yn ddiweddar. Gorffennodd Leeds y ras 12 cymal mewn amser o 4 awrr 11 munud a 28 eiliad gydag wyth o’r tîm yn gyntaf yn eu cymalau unigol, a thri arall yn ail!

Clwb Bryste a’r Gorllewin, gan gynnwys y Cymro Owain Jones, oedd yn ail mewn 4:15:00 a Highgate Harriers yn drydydd mewn 4:15:34.

Llwyddodd tîm cryf Harriers Abertawe i orffen yn y degfed safle gyda Kristian Jones yn rhedeg cymal hir cryf mewn 26:22 a Dominic Smith yn rhedeg eu cymal byr cyflymaf mewn 15:57.

“Profiad anhygoel”

Roedd rhedwyr Meirionnydd yn gyson iawn yn eu cymalau hwythau, gyda phob rhedwr yn yr ugeiniau o ran eu safleoedd, tra bod Rhodri Owen wedi gorffen yn yr ail safle ar bymtheg yn y cymal agoriadol mewn 27:00. Amser gorffen y tîm oedd 4:33:23.

Rhedodd Gwion Roberts ei gymal hir mewn 28:47 ac roedd yn falch iawn o ymdrechion y tîm.

“Roedd hi’n brofiad anhygoel i mi yn bersonnol i allu rhedeg ras fel’na” meddai Gwion wrth Chwys.

“…ond hefyd y teimlad o fod yn ran o dîm lle’r oedd pawb yn ‘focused’ ar y job ac isio gneud y gorau, nid dim ond drost eu hunain ond i glwb bach o ganol Cymru does neb erioed ‘di clwad amdno!

“Gobeithio bydd hyn yn ysbrydoli mwy o redwyr i ymuno â ni a hefyd i fwy o glybia’ yn y gogledd fynd amdani ac anelu at ddigwyddiadau tebyg.”

Clwb rhedeg Meirionnydd oedd y clwb cyntaf o Ogledd Cymru i gystadlu yn y ‘Nationals’ ers dros ugain o flynyddoedd.

Rasys 6 cymal y merched

Roedd timau cystadleuol o Gymru yn rasio yn rasys y merched ar y dydd hefyd, a hynny dros chwech cymal.

Thames Valley Harriers ddaeth i’r brig ymysg y merched gyda Leed City yn ail y tro hwn, a chlwb enwog arall, Sale Harriers yn drydydd.

Harriers Abertawe orffennodd yn y safle uchaf o’r Cymry, sef nawfed allan o 45 tîm.

Roedd perfformiad cryf gan ferched clwb Les Croupier o Gaerdydd oedd yn cael eu harwain yn y cymal cyntaf gan enillydd Marathon Eryri llynedd, Alaw Evans.  Gorffennodd y tîm yn y pedwerydd safle ar ddeg.

Y trydydd tîm o Gymru ymysg y merched oedd Roadents Pontypridd a orffennodd yn y nawfed safle ar hugain.

Canlyniadau llawn ras y dynion

Canlyniadau llawn ras y merched