Llanw a thrai ydy hanes llawer o glybiau rhedeg yn reit aml, ac mae’n debyg bod hynny’n beth digon naturiol wrth i redwyr fynd a dod yn yr un modd a diddordeb lleol yn y gamp.

Gellir dadlau fod hynny’n amlycach fyth pan ddaw at glybiau yn ardaloedd mwy gwledig Cymru, yn sicr o’i gymharu â’r clybiau amlwg yn y dinasoedd mawr fel Clwb Athletau Caerdydd a Harriers Abertawe.

Er hynny, mae un clwb gwledig o’r gogledd sy’n sicr yn profi oes aur ar hyn o bryd, a gellir dadlau bod yr arwydd amlycaf o hynny dros y penwythnos wrth i dîm dynion Clwb Rhedeg Meirionnydd gystadlu yn un o rasys ffordd enwocaf y byd.

Ras gyfnewid ddeuddeg cymal ydy’r Bencampwriaeth Cyfnewid Rhedeg Lôn Cenedlaethol (National Road Relays) ac fe’i cynhelir ym Mharc Sutton, Birmingham ddydd Sadwrn yma, 6 Ebrill.

Yn y cylchoedd rhedeg cystadleuol, dyma un o ddigwyddiadau mwyaf y flwyddyn ac mae rhedwyr gorau ac enwocaf Prydain wedi cystadlu i’w clybiau yno dros y blynyddoedd gan gynnwys Mo Farah. Yr enw mwyaf ar y rhestr eleni mae’n siŵr ydy Phill Sesemann o dîm Leeds City, sydd wedi’i ddewis i gynrychioli Prydain yn y Marthathon yng Ngemau Olympaidd Paris eleni.

Ymysg y rhedwyr amlwg eraill sy’n rhedeg y tro hwn mae’r Albanwr Andrew Butchart, sydd wedi bod i’r Gemau Olympaidd ddwywaith, a rhedwr gorau Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, Dewi Griffiths, fydd yn cynrychioli Harriers Abertawe.

Ac yng nghanol yr enwau mawr eleni bydd enwau Gwion a Tom Roberts, Rhodri Owen, Ifan Dafydd ac eraill o Feirionnydd yn gobeithio gwneud eu marc a dangos y talent rhedeg sy’n llechu yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.

Y gogs cyntaf ers dau ddegawd

Yn gryno, mae’r ras gyfnewid yn cynnwys deuddeg cymal – chwech o’r rhain yn 8km o hyd, a’r chwech arall yn 5k.

Er mwyn ennill yr hawl i gystadlu yn y ‘Nationals’ mae’n rhaid i glybiau gael llwyddiant yn eu rowndiau rhanbarthol. I Feirionnydd, roedd hynny’n golygu cystadlu ym Mhencampwriaeth Ras Gyfnewyd Cenedlaethol Cymru ym Mharc Penbre ym mis Medi llynedd, a gorffen yn y tri uchaf.

Llwyddodd y clwb i wneud hynny, gan orffen yn drydydd tu ôl i Abertawe a Chaerdydd gan sicrhau eu lle ym Mharc Sutton – y clwb cyntaf o Ogledd Cymru i wneud hynny ers dros ugain mlynedd. Yn wir, Clwb Athletau Wrecsam ydy’r unig glwb o’r gogledd i gystadlu yn y bencampwriaeth Brydeinig yn y gorffennol, felly mae’r gamp yn un enfawr i Feirionnydd.

Capten tîm rhedeg lôn Meirionnydd ar hyn o bryd, ac efallai’r prif egni tu ôl i lwyddiant diweddar y clwb, ydy Tom Roberts, sy’n amlwg yn falch iawn o’r hyn maent wedi cyflawni.

“Mae o’n meddwl lot i ni fel clwb i gael y cyfle i gystadlu mewn ras mor enwog” meddai Tom.

“Nid yw timau o’r Gogledd yn tueddu i berfformio ar y safon sy’n caniatau iddynt gystadlu mewn cystadleuthau mawr fel y Nationals.

“Gwelir nifer o redwyr elité Gogledd Cymru yn cael eu denu i glybiau mawr ochrau Lloegr sydd yn biti. Mae’n braf cael y cyfle i ddangos fod tîm bach o’r Gogledd yn gallu cystadlu yn erbyn clybiau mwyaf y wlad.”

Yn sicr bydd Meirionnydd mewn cwmni da gydag enwau clybiau enwog fel Belgrave Harriers, Kent AC, Leeds City, Lerpwl Harriers, Central AC a Harriers Abertawe ymysg y 63 tîm sy’n cystadlu ym Mharc Sutton.

Nid dros nos mae sicrhau y fath lwyddiant, ac mae’n glir i unrhyw un sy’n dilyn rhedeg yng Nghymru bod Meirionnydd wedi bod yn gweithio’n galed tu ôl i’r llenni gan recriwtio’n graff, a chreu rhyw egni a naws arbennig.

Mae’r tymor traws gwlad newydd ddod i ben, ac roedd dynion Meirionnydd, sy’n cael eu harwain gan frawd bach Tom, Gwion Roberts, o fewn trwch blewin i gipio teitl Cynghrair Gogledd Cymru eleni. Yn wir, gydag un ras o’r gyfres yn weddill fe lwyddodd Meirionnydd i wthio Clwb Athletau Amwythig oddi-ar frig y tabl am y tro cyntaf ers degawd. Yn anffodus, llwyddodd Amwythig i ddenu eu rhedwyr cryfa’ i redeg y ras olaf yng Nghoesoswallt ddechrau mis Chwefror a chipio’r gynghrair o gwta 11 pwynt.

Cynhwysol, croesawgar, cefnogol

Mae’n amlwg bod y clwb yn ffynnu ar hyn o bryd, ond beth ydy’r gyfrinach?

“Ar hyn o bryd mae ysbryd y clwb yn uchel iawn, mae pawb yn cefnogi ei gilydd,” eglura Tom.

“Mae criwiau gwahanol yn dod at ei gilydd i ymarfer dros y sir a mi yda ni’n denu rhedwyr newydd o bob safon oherwydd hyn.

“Mae’r clwb yn denu rhedwyr newydd efo couch to 5k ond hefyd rhedwyr profiadol. Gwelwyd timau llawn i bob categori yn nhwrnament traws gwlad eleni ac mae’r naws cynhwysol a chroesawgar sydd i’r clwb yn sicr yn reswm dros y llwyddiant diweddar.

“Mae’r cyfle i rasio yn y gystadleuaeth yma yn adlewyrchu gwaith caled y clwb dros y misoedd diwethaf. Er fod y tîm sy’n mynd i Birmingham ymysg rhedwyr cyflymaf y clwb, mi ydan ni’n glwb sy’n ymfalchio yn llwyddiannau pob unigolyn o bob safon. Mae clod yn mynd i bob perfformiad.”

Mae hynny’n amlwg iawn i’w weld ar gyfryngau cymdeithasol Meirionnydd, sy’n fywiog iawn ar hyn o bryd ac yn dathlu llwyddiant eu rhedwyr yn wythnosol wrth iddynt wisgo’r fest glas tywyll mewn rasys ledled Cymru a thu hwnt.

Y rhedwyr cyflymaf fydd yn cystadlu ym Mharc Sutton dros y penwythnos ac mae’r tîm yn un cryf. Yn ogystal â Tom, sydd wedi cynrychioli Cymru yn y gorffennol ac a redodd 2:26:13 ym Marathon Llundain llynedd, mae enw Russell Bentley yn un amlwg arall ar y rhestr. Mae Bentley yn gyn enillydd Marathon Eryri (2016 a 2018) ac yn hyfforddwr rhedeg uchel ei barch.

Enw arall i gadw golwg arno ydy Rhodri Owen, sydd yntau wedi dod yn ail ym Marathon Eryri (2022) ac a redodd  2:21:23 ym Marathon Valencia fis Rhagfyr. Mae Owen yn amlwg mewn siâp gwych ar hyn o bryd ar ôl rhedeg ei amser gorau dros 10k fis diwethaf, sef 30:06 y Trafford 10k. Rhedodd Gwion Roberts a John Davies o’r tîm eu hamseroedd gorau ar gyfer y pellter yn yr un ras hefyd, tra bod Gavin Stuart, sydd wedi ymuno â’r clwb yn ddiweddar, wedi rhedeg ei amser 10k gorau yn Pulford bythefnos yn ôl.

Felly gyda nifer o’r criw yn amlwg ar ei gorau, beth ydy’r gobeithion i Feirionnydd yn erbyn 63 o glybiau gorau Prydain?

“Byddwn yn falch iawn os gawn ni fod yn y 30 uchaf,” ydy ymateb Roberts i’r cwestiwn.

“Rydym yn bwriadu gweithio fel tîm a gwneud ein gorau gan fanteisio ar y cyfle i gystadlu yn erbyn goreuon y wlad.

“Yn bersonol bydd rhedeg y ras yma efo fy nghlwb yn un o’r uchafbwyntiau mwyaf o fy ngyrfa rhedeg a dwi wedi bod yn lwcus i gael cynrychioli fy ngwlad a rhannu llinell gychwyn Marathon Llundain efo Mo Farah!”

Ag yntau wedi ymddeol, fydd Farah ddim ar y llinell ddechrau penwythnos yma, ond gyda’r hyder ac ysbryd sy’n llifo trwy wythiennau Clwb Rhedeg Meirionnydd ar hyn o bryd gallwch yn hawdd eu gweld yn rhoi ras dda i enwau mawr eraill rhedeg Prydain ym Mharc Sutton.