Fe fydd tîm pêl-rwyd Uganda, y She Cranes, yn cymryd rhan yng Nghwpan y Cenhedloedd ddiwedd y mis yn erbyn timau gorau’r byd, Awstralia, Seland a Lloegr.

Gan fod y twrnamaint hwnnw’n digwydd yn y Deyrnas Unedig fe wnaeth Uganda’r mwyaf o’r cyfle i gael cyfres brawf yn erbyn Plu Cymru i baratoi, ond hefyd yn gyfle gwych i Gymru chwarae yn erbyn tîm o safon.

Cyn y gyfres roedd Uganda yn 7fed yn y byd a Chymru yn 9fed, gydag Uganda hefyd wedi gorffen yn bumed yng Nghwpan Pêl-rwyd y Byd yn Ne Affrica yn 2023.

Doedd Cymru heb brofi llwyddiant yn erbyn Uganda ers Cwpan y Byd 2015, gyda buddugoliaeth o 64-41. Haf diwethaf, fe ddaeth y ddau dîm wyneb yn wyneb unwaith eto yng Nghwpan y Byd ond Uganda aeth â hi y tro yma, gyda sgôr o 73-56!

I’r Plu Cymreig, enw gymharol newydd i dîm Cymru, roedd hon am fod yn gyfres brawf anodd, ond roedd yn gyfle i wynebu cenedl gref a chorfforol a chyfle i gau’r bwlch ar y goreuon yn y byd.

Dewisodd y brif hyfforddwraig Emily Handyside amrywiaeth o brofiad a ieuenctid yn y garfan 15 chwaraewr, gyda’r profiadol Nia Jones a Bethan Dyke yn arwain y tîm, gyda’r saethwyr Georgia Row a Phillipa Yarrington wedi eu henwi yn ogystal â saith chwarae heb gap – Abigail Caple, Megan Pilkington, Leah Middleton, Caris Morgan, Ellen Morgan, Bethan Johnson ac Alex Johnson.

Dechreuodd y Plu yn gryf yn y gêm brawf gyntaf, ar y 10fed o Ionawr. Dyfarnwyd y gêm yn unol â rheolau newydd World Netball a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2024. Fe fydd y rheolau newydd yn cael eu defnyddio mewn gemau rhyngwladol hyn a gemau uwch gynghrair y tymor yma.

Gwelwyd cymalau arbennig gan y Plu, chwarae ymosod deinamig a digon o hyder tu ôl i’r bêl. Roedd y saethwyr Georgia Row a Phillipa Yarrington yn gryf yn y cylch, gan barhau i ddatblygu eu partneriaeth a ffurfiwyd yng Nghwpan y Byd y llynedd.

Y cap newydd Leah Middleton oedd seren y gêm, a ddominyddodd yn y cylch amddiffyn, gan droi’r bêl drosodd a rhoi pwysau ar saethwr Uganda Mary Cholhoc.

Fe ddaeth Uganda o fewn gôl neu ddwy, ond nid oedd y Plu yn barod i ildio ac fe wnaethon nhw ddal gafael ar y sgôr a chymryd y fuddugoliaeth yn y gêm brawf gyntaf. Sgôr terfynol; Cymru 57 Uganda 45.

Doedd dim syndod bod yr ail gêm brawf yn anoddach, gyda’r She Cranes yn awyddus i wneud yn iawn am golli’r gêm agoriadol.

Ond fe wnaeth gwallau a cham ddisgyblaeth yng ngêm y Plu, amharu ar chwarae Cymru a oedd mor gryf yn y gêm gyntaf. Manteisiodd y She Cranes ar hyn yn yr ail hanner gyda chwarae cyflym a chorfforol, gan roi saethwyr Cymru o dan bwysau, gan arwain at Uganda’n ennill y trydydd chwarter o 19-6 gôl!

Daeth cyfle i chwaraewyr ifanc carfan y Plu ennill eu capiau cyntaf wrth i’r capteiniaid adael y cwrt. Roedd Uganda yn rhy gryf i Gymru ar yr achlysur yma, gyda buddugoliaeth o 64-40 ac asgellwraig ymosodol y She Cranes, Lillian Achola, yn derbyn tlws Seren y Gêm.

Roedd y gêm brawf olaf yn addo bod yn un llawn cyffro felly gyda chyfle i’r ddau dîm gipio’r fuddugoliaeth a’r gyfres. Ni siomwyd y cefnogwyr gyda’r gêm yn un llawn chwarae corfforol ar ac oddi ar y bêl!

Y She Cranes aeth ar y blaen yn y cwarter agoriadol gyda mantais o bum gôl, ar ôl dechrau da gan y ddau dîm. Roedd Cymru yn chwarae gêm amddiffynnol da ond roedd angen ychydig mwy o gysondeb. Roedd chwarae ymosodol Uganda yn galluogi i’r bêl deithio’n gyflym o un pen y cwrt i’r llall gan gyrraedd y saethwyr mewn dim.

Erbyn hanner amser, un gôl o fantais oedd gan Uganda, gyda’r ddau dîm yn chwarae’n gorfforol iawn a’r cap newydd Ellen Morgan yn rhoi digon o bwysau ar ganolwraig Uganda.

Chwaraeodd Uganda gyda llawer mwy o angerdd yn yr hanner olaf ond roedd Cymru’n chwarae’n dda hefyd yn amddiffynnol ac yn ymosodol. Roedd gan y saethwraig Phillipa Yarrington mwy o le yn y cylch gydag amddiffynwyr Uganda yn marcio Georgia Row. Yn anffodus ni lwyddodd y Plu i gymryd mantais o’u chwarae positif ac fe aeth Uganda ati i gipio’r fuddugoliaeth, 59-48. Er y golled i Gymru, enwyd Georgia Row yn seren y gêm.

Uganda gipiodd y gyfres felly, o ddwy gêm i un, a Mary Cholhok o’r She Cranes yn cael ei henwi’n Chwaraewr y Gyfres.

Er na lwyddodd Cymru i ennill y gyfres, roedd yn brofiad positif iawn i’r garfan ar y cyfan wrth edrych at y dyfodol. Rhoddwyd cyfle i chwe chwaraewraig newydd, gan roi cyfle iddyn nhw brofi pêl-rwyd ryngwladol a chaniatáu i’r prif hyfforddwr Emily Handyside ychwanegu i’r dyfnder yng ngharfan Plu Cymru. Mae hyn i gyd yn ddatblygiad cyffrous wrth i Bêl-rwyd Cymru adeiladu at Gwpan y Byd 2027.