Mae gemau cyntaf 2024 wedi bod, yn broffesiynol ac ar lawr gwlad. Gwych oedd gweld torfeydd mawr ar gyfer gemau derbi’r rhanbarthau dros yr ŵyl, ac er bod penwythnos arall wedi ei ddinistrio gan storm arall, mae pawb ar dân i ail afael yn y rygbi ac i adeiladu momentwm. Gan gofio’r holl negatifrwydd ymysg rygbi Cymru yn 2023, dyma obeithio am 2024 fwy llwyddiannus a phositif.
Penwythnos Olaf 2023
Roedd rownd olaf y gemau yn 2023 i fod i’w cynnal ar 30ain o Ragfyr, ond oherwydd storm arall, dim ond un gêm allan o 6 aeth ymlaen. Roedd y gêm honno rhwng Wrecsam a’r Bala a’r tîm cartref ddaeth yn fuddugol mewn amodau erchyll, gan ennill o 15-9.
Dechrau 2024
Ni chafodd pob gêm lwyddiant ar benwythnos cyntaf 2024 chwaith, gyda dwy gêm yn cael eu gohirio. Roedd pawb yn edrych ymlaen at y frwydr ar y brig, Llandudno yn erbyn Nant Conwy, ond cafodd honno, a’r gêm rhwng Rhuthun a Llangefni eu gohirio oherwydd cyflwr y caeau. Gobeithio nad yw hyn yn arwydd o sut bydd gweddill y tymor.
Nos Wener
Dechreuodd y penwythnos mewn steil ar y nos Wener gyda Phwllheli’n teithio i herio Y Bala. Mewn amodau erchyll a heriol, cafodd y gwŷr o Lŷn fuddugoliaeth swmpus o 44-5. Cipiodd y mewnwr, Danial Williams hat-tric, gyda Sam Hughes, Jac Jones a Robin Owen hefyd yn croesi. Ychwanegodd Osian Jones 14 pwynt oddi ar ei droed dibynadwy i ymestyn y sgôr. Bydd tîm hyfforddi Pwllheli’n bles iawn gyda’r canlyniad yma gan gofio’r amodau difrifol.
Momentwm
Mae Wrecsam yn dechrau adeiladu momentwm da yn eu tymor cyntaf yn ôl yn adran 1, gyda buddugoliaeth o 61-7 yn erbyn Dolgellau, sydd yn eu codi i 6ed yn y tabl. Sgoriodd y tîm cartref naw cais gan wyth chwaraewr gwahanol, gyda’r capten a’r wythwr Jack Harrison yr unig un i sgorio dau. Roedd Callum Riordan, Nick Dodd, Luke Thornhill a Jack Partington ymysg y sgorwyr eraill, a’r maswr Jacob Hughes yn trosi wyth o’r ceisiau.
Sioc
Ychydig iawn byddai wedi darogan sgôr y ddwy gêm olaf, gyda COBRA’n fuddugol yn erbyn Caernarfon, a’r Wyddgrug yn ennill Bethesda.
24-13 oedd y sgôr i COBRA, gyda phac mawr y Cofis wedi ei neilltuo. Rhodri Evans oedd unig sgoriwr ceisiau Caernarfon ar y diwrnod.
Roedd canlyniad arbennig i’r Wyddgrug yn ogystal, gan drechu 23-18 yn erbyn tîm cryf Bethesda. Ar ôl i Pesda fynd ar y blaen drwy giciau cosb, brwydrodd y gwŷr o’r Dwyrain yn ôl gyda ceisiau gan Jamie Elder a Scott Jones, gyda Seth Geary a Louis Williams yn trosi a Danny Williams yn ychwanegu cic gosb i’r tîm cartref. Y maswr Geary aeth ymlaen i ennill seren y gêm yn ogystal.
Y Dyfodol
Dechreuodd gemau rhanbarthol o dan 18 y penwythnos diwethaf, gyda bechgyn RGC yn croesawu Rygbi Caerdydd i Barc Eirias. Y Gogs aeth a’r fuddugoliaeth o 29-5 gyda 10 clwb yn cael eu chynrychioli ar hyd a lled y Gogledd. Byddent yn trafaelio i herio Dreigiau wythnos nesaf.
Dechreuodd y ddau dîm merched hefyd, gyda’r Piws yn curo 36-22 gartref yn erbyn Caerdydd, ond y Du yn colli oddi cartref i Gaerdydd o 56-5.
I Ddod
Bydd Pwllheli’n chwarae nos Wener eto wythnos yma, gan groesawu Dolgellau i Fodegroes. Dydd Sadwrn, bydd Bethesda’n croesawu Rhuthun, Caernarfon yn herio Y Bala ar Y Morfa, Llangefni yn chwarae Llandudno, COBRA’n teithio i Nant Conwy a bydd pawb yn edrych ar frwydr y Dwyrain rhwng y Wyddgrug a Wrecsam.
Pob lwc i bawb.