Canlyniadau cymysg yn y gwpan, ychydig o lwyddiant yn genedlaethol a chynghrair gystadleuol. Dim ond penwythnos cyffredin arall ymysg rygbi yng Ngogledd Cymru!

Cwpan

Yn anffodus colli oedd hanes Llandudno lawr yn Llanelli ddydd Sadwrn, a hynny o 34-15. Arwydd clir o safon y gwŷr o’r de a hwythau dim ond wedi colli un gêm drwy’r tymor.

Cafodd Bae Colwyn lwyddiant serch hynny yng nghystadleuaeth Adran 3, gan guro Rhymni 33-15. Eu gwobr nhw yw taith lawr i’r brif ddinas i herio Cwins Caerdydd yn y chwarteri.

Colli oedd hanes Teirw Nant, a hynny o 34-7 ym Mhant Carw yn yr un gystadleuaeth, yn erbyn Blaina. Yn yr un modd, collodd Rhyl eu gem gartref nhw o 27-10 yn erbyn Cwmafan.

Yng nghystadleuaeth Adran 5, Ail Dim Rhuthun ddaeth ar y brig yn erbyn Ail Dim Pwllheli o 19-0 ar Gae Ddol. Byddent nhw nawr yn chwarae un ai Deri neu Seven Sisters yn y rownd gynderfynol. Mae’r lleoliad a’r amser i’w gadarnhau.

Cymru

Llongyfarchiadau mawr i Patrick Nelson a Harri Ford o dîm RGC sydd wedi eu cynnwys yng ngharfan Dan 20 Cymru ar gyfer pencampwriaeth y chwe gwlad eleni. Daeth Patrick drwy adran iau ac ieuenctid Rhyl cyn symud i dimau hyn RGC.

Wrecsam

Mae tymor Wrecsam yn mynd o nerth i nerth, gyda’u pumed fuddugoliaeth o’r bron a hynny yn erbyn eu cymdogion, Rhuthun. 19-14 oedd y sgôr terfynol gyda’r canolwr Lloyd Roberts yn bachu dau gais a’r eilydd Jack Mackenzie-Moore yn croesi am y drydydd. Wedi dechrau sigledig i’r tymor, maent yn sicr yn haeddiannol o’i lle yn Adran 1.

Gemau Clos

Roedd y tair gem arall i fod yn rhai unochrog, wrth edrych ar safleoedd y timau yn y gynghrair ond roedd hi’n dipyn mwy o frwydr na’r disgwyl.

Daeth Nant yn fuddugol o Langefni o 39-19 er bod Llangefni 14-11 ar y blaen ar yr hanner a dim ond 21-19 oedd hi tan y 10 munud olaf, cyn i ffitrwydd a phrofiad Nant ddangos gyda thri chais hwyr. Roedd disgyblaeth Cefni yn rhannol ar fai am y sgôr gyda Caron Davies yn llwyddo gyda pum cic gosb. Croesodd y mewnwr Cai Jones am ddau gais, gyda’r asgellwr Gethin Roberts a’r wythwr bytholwyrdd Carwyn Elis hefyd yn croesi.

Roedd hi’n gêm glos ar y Marian hyd at y chwarter awr olaf hefyd ond Caernarfon ddaeth allan ar y brig o 36-8. Croesodd y cofis am chwe chais. Dau gan y capten Dafydd Thirsk, gyda chwaraewr ar fenthyg o RGC Jack Davies a Guto Pierce, oedd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf wedi cyfnod yn trafaelio hefyd ymysg y sgorwyr.

Mae Pwllheli hefyd i weld yn darganfod ychydig o rythm yn eu gem, gan drechu’r Wyddgrug oddi cartref 17-0. Roedd y tîm cartref yn haeddu rhywbeth o’r gêm yma, gan daflu popeth tuag at amddiffyn ystyfnig y gwŷr o Lŷn. Croesodd Sam Hughes am gais arall, gyda’r canolwr Deio Brunelli hefyd yn croesi.

Y Dyfodol

Colli oedd hanes y bechgyn Dan 18 yn erbyn y Gweilch a hynny o 29-3.

Cymysg yw hanes y merched, gyda RGC Piws heb golli gem ac ar frig y tabl wedi curo’r Gweilch 25-22. Ar ben arall y tabl, does gan RGC Du ddim pwynt eto, gan golli’n drom yn erbyn y Scarlets o 65-0.

I Ddod

Unwaith eto mae gemau cyffrous ar y gweill. Bydd Wrecsam yn gobeithio rhoi stamp a hanner i lawr gan groesawu Llandudno i Fryn Estyn. Ymysg y gemau eraill bydd Bethesda adref i Langefni, Caernarfon yn croesawu’r Wyddgrug, COBRA yn herio Dolgellau, Bala’n teithio i Nant Conwy a Pwllheli a Rhuthun yn brwydro ar Barc Bodegroes.

Pob lwc i bawb.