Penwythnos cyffrous arall yn y byd rygbi yng Ngogledd Cymru gyda gemau clos hyd y diwedd. Mae’r bwlch yn ffitrwydd rhai timau yn dod i’r amlwg gyda’r goreuon yn dangos eu lefelau yn y chwarter olaf i dynnu ar y blaen o gemau clos.

Ail Drefnu

Gohiriwyd gêm Dolgellau a COBRA ddydd Sadwrn o ychydig ddyddiau ac fe wnaethon nhw chwarae nos Fawrth, 30 o Ionawr. COBRA ddaeth i’r brig gyda sgôr o 38 i 10, gyda’r gêm i bob pwrpas ar ben erbyn yr hanner.

Di-Sgôr