Wedi seibiant yn ystod cyfnod y Chwe Gwlad, tawel iawn yw’r rygbi ar y llawr gwlad wedi bod.

Cynghrair

Dim ond un gêm gynghrair sydd wedi bod yn y bythefnos ddiwethaf, a hynny rhwng Bethesda a Chaernarfon ar Dol Dafydd. Yr ymwelwyr aeth a’r fuddugoliaeth 29-24 mewn gem agos, gystadleuol a chyffrous. Sgoriodd yr ymwelwyr bedwar cais i gyd, gyda Liam Leung yn croesi’r gwyngalch dwywaith, hefo Tom Jarman a Daniel Williams yn croesi unwaith yr un. Ychwanegodd Aled Jones 9 pwynt o’i droed gyda thri throsiad a dwy gic gosb gan gipio Seren y Gêm yn y broses.

Croesodd y mewnwr Darren Jones dwywaith i’r tîm cartref gyda Ben Williams yn trosi’r ddau. Er bod Bethesda’n cael tymor eithaf da, mae un chwaraewr yn sefyll allan, a’r cefnwr Ben Williams yw hwn, gan ei fod yn brif sgoriwr pwyntiau’r gynghrair gyda 186 pwynt cyn y gêm yn erbyn y Cofis. Camp anhygoel sydd yn cyfateb i dros 12 pwynt y gêm.

Cwpan

Er mai dim ond un gêm gynghrair cafodd ei chwarae, mae dwy gêm yn rownd gyntaf Cwpan Adran 1 wedi bod. Curodd Wrecsam 22-20 yn erbyn Wyddgrug gyda’r asgellwr Rhys Davies yn cipio hat-tric, hefo’r ail-reng Luke Thornhill hefyd yn croesi i’r tîm cartref.

Ym Mhwllheli roedd Nant Conwy yn gyfforddus yn eu buddugoliaeth o 52-22. Roedd gem dadlwytho’r ymwelwyr yn ormod i amddiffyn y tîm cartref er i Bwllheli gael digon o feddiant. Roedd Nant yn glinigol, yn chwarae gyda dwysedd uchel ac yn drefnus, gyda Phwllheli’n cael trafferthion i dorri llinell amddiffyn y gwŷr o Lanrwst.

Rhyngwladol

Mae nifer o alwadau rhyngwladol wedi cael ei chyhoeddi yn yr wythnosau diweddar. Llongyfarchiadau i ddechrau i Patrick Nelson a Harri Ford o dîm hŷn RGC wrth gynrychioli tîm o dan 20 Cymru.

Llongyfarchiadau i Gwenllian Pyrs, Alaw Pyrs, Nel Metcalfe, Sian Jones a Kelsey Webster am gael eu dewis i garfan ymarfer merched hŷn Cymru cyn Pencampwriaeth y 6 Gwlad.

Llongyfarchiadau hefyd i Greg Thomas, Dylan Alford, Tom Cottle, Jac Wyn Roberts a Tudur Jones am gael eu henwi yng ngharfan Dan 18 Cymru ar gyfer Cystadleuaeth 6 Gwlad nhw.

Mae 11 o ferched o garfan Dan 18 RGC wedi eu henwi yn y garfan genedlaethol; llongyfarchiadau mawr i Poppy Hughes, Elan Jones, Alaw Pyrs, Begw Ffransis, Efa Jones, Branwen Metcalfe, Gwenllian Hughes, Carys Whitfield, Hanna Tudor, Leah Stewart, Hannah Lane a Saran Jones. Mae’n wych gweld cymaint o gynrychiolaeth o fewn un garfan!

I Ddod

Mae Dolgellau a’r Bala yn chwarae gem ddwbl dydd Sadwrn, mewn cyfuniad o gêm gynghrair a chwpan. Yn y gynghrair, mae Bethesda’n croesawu Nant Conwy, Llandudno’n herio Pwllheli a bydd Wrecsam yn teithio i Fôn i herio Llangefni. Bydd Y Wyddgrug a Rhuthun yn chwarae gemau cartref yn erbyn COBRA a Chaernarfon.

Bydd seibiant arall penwythnos nesaf ble bydd miloedd o Gymru yn siŵr o groesi’r môr i Iwerddon ar gyfer y chwe gwlad, a bydd y gynghrair yn dychwelyd ar yr ail o Fawrth.

Pob lwc i bawb!