Gydag ail benwythnos heb gemau’r Chwe Gwlad wedi bod, roedd y rygbi ar lawr gwlad gwerth ei wylio.

Cyntaf vs Olaf

Roedd hi’n fater o’r tîm ar y brîg yn erbyn y tîm ar y gwaelod ar Bant Carw b’nawn Sadwrn wrth i Nant Conwy groesawu Dolgellau. Roedd hon yn hynod unochrog gyda’r sgôr terfynol yn 94-0 i Nant â’r cefnwr Sion Pringle a’r asgellwr Rhydian Jones yn sgorio hat-tric yr un, hefo’r canolwyr Cain Jones a Caron Davies yn sgorio dwy yr un. 14 cais sgoriwyd i gyd gyda Davies, y capten, yn trosi 12 o’r rheiny.

Siom

Roedd gêm y penwythnos yn argoeli i fod ar Y Morfa, gyda Llandudno’r ymwelwyr i herio Caernarfon. Roedd nifer wedi darogan hon fel gêm agos wedi i Gaernarfon ennill y gêm gyfatebol ar Barc Eirias yn gynharach yn y tymor. 48-17 oedd y sgôr terfynol i Landudno, ac roedd hi wastad am fod yn dalcen caled i’r tîm cartref wedi iddynt fynd 12-0 i lawr wedi 5 munud, diolch i geisiau Morgan Owen a Callum Brammer.

Croesodd Owen eto, ynghyd a Lloyd Evans a’r dylanwadol Kelvin Davies i wneud hi’n 29-3 ar yr hanner. Sgoriodd Josh Cole, a dwy arall gan Lloyd Evans i gipio’r hat-tric yn yr ail hanner i Dudno. Jack Davies, yr ail reng a’r profiadol Carwyn Roberts groesodd y linell i’r Cofis mewn gêm byddent yn sicr o fod yn siomedig ag o.

Pwysig

Roedd hi’n frwydr ar y gwaelodion ym Maes Gwyniad, Y Bala, gyda’r Wyddgrug yn fuddugol o 13-10, canlyniad a fydd yn hwb enfawr i’w gobeithion nhw i aros i fyny eleni. Y canolwr Andrew Cowling groesodd am y cais, gyda’r maswr Seth Geary yn ychwanegu wyth pwynt o’i droed i sicrhau buddugoliaeth allweddol i’r gwŷr o’r Dwyrain.

Munud Olaf

Unwaith eto, cipiodd Wrecsam fuddugoliaeth funud olaf ddydd Sadwrn, y tro hwn yn erbyn Bethesda ar Fryn Estyn. 30-29 oedd y sgôr ar y diwedd gyda Jack Jones yn sgorio’r pwyntiau funud olaf. Sgoriodd Rob Massam ddau gais ar ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb, gyda Luke Thornhill a Jones ei hyn yn croesi. Sgoriodd ddau drosiad a dau gic gosb i fod y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm ar ôl yr 80.

Ar Dân

Un tîm sydd wedi darganfod ychydig o rythm yn ddiweddar yw COBRA, gan drechu Rhuthun 33-3 ym Meifod. Maent bellach wedi sgorio 109 pwynt yn eu tair gêm olaf, gan ildio 23. Maent i weld yn chwarae eu rygbi gorau ar bwynt allweddol y tymor.

Gohirio

Yn anffodus roedd rhaid i’r gêm rhwng Pwllheli a Llangefni gael ei gohirio oherwydd cyflwr y cae. Doedd y cae ddim o dan ddŵr, ond roedd y risg o anafiadau yn uchel gan ei bod yn feddal, gwlyb a mwdlyd tu hwnt. Bydd rhaid felly, ail drefnu’r gêm yma.

I Ddod

Gyda Chymru’n chwarae ddydd Sul, mae rhestr lawn o gemau i’w chwarae ddydd Sadwrn.

Bydd Pwllheli’n trafaeilio i Fethesda, Llandudno’n croesawu COBRA a Llangefni’n herio Caernarfon.

Bydd timau’r Dwyrain i gyd adref, Wyddgrug, Rhuthun a Wrecsam, a’r rheiny yn erbyn Dolgellau, Bala a Nant Conwy.

Pob lwc i Gymru ddydd Sul a phob lwc i bawb yn eu gemau hwy ddydd Sadwrn.