Gyda’r tymor yn nesáu at y terfyn, mae rhai timau’n dal i fyny hefo gemau ar dân, a gyda 5 gêm dros y penwythnos diwethaf, hon oedd y penwythnos mwyaf llawn olaf y tymor.

Caernarfon v Dolgellau

Chwip o fuddugoliaeth oedd hon i Gaernarfon mewn amodau heriol, a hynny o 60-0 yn erbyn y tîm ar y gwaelod, Dolgellau. Sgoriwyd 10 cais, gyda’r asgellwr Dylan Owen yn sgorio hat-tric. Ymysg y sgorwyr eraill oedd y capten Dafydd Thirsk, yr wythwr Mac Jones a’r cefnwyr Guto Pierce ac Iwan Evans. Sgoriodd Aled Jones pum trosiad.

Llandudno v Bala

Hon oedd yr ail waith i’r ddau glwb yma wynebu ei gilydd mewn mater o wythnosau, a hynny wedi buddugoliaeth annisgwyl i Bala. Doedd yr un canlyniad ddim i fod y tro hwn, gyda Llandudno’n cipio hi o 24-7. Roedd hi’n bwysig i’r ‘Goats’ ennill hon i sicrhau ail safle yn y gynghrair, a hynny hefo pwynt bonws. Tom Yardley, Josh Cole, Cam Owen a’r asgellwr Reeve Wright groesodd y gwyngalch, gyda’r mewnwr James Andrew’n trosi. Y blaenasgellwr Bob Davies oedd seren y gêm.

Wyddgrug v Nant Conwy

Gydag Wyddgrug yn brwydro am eu lle yn Adran 1, roedd hon wastad am fod yn anodd yn erbyn y Pencampwyr. 36-8 oedd y sgôr terfynol gyda’r ymwelwyr yn sgorio pum cais, tair o’r rheiny gan y blaenasgellwr Tomos Williams. Ifan Emyr Williams a Sion Pringle groesodd am y ddau arall, gyda’r capten dylanwadol Caron Davies yn cicio pedwar trosiad ac un gic cosb i orffen hefo 11 pwynt.

Caine Le Tissier groesodd i’r tîm cartref, gyda Jack Lawrence yn sgorio cic gosb. Bydd holl sylw’r Wyddgrug bellach yn troi i’r gem enfawr yn erbyn Llangefni, gem fydd yn penderfynu pwy fydd yn chwarae yn Adran 1 y tymor nesaf.

Rhuthun v Llangefni

Mae rhaid i Langefni guro Wyddgrug dydd Sadwrn os am unrhyw obaith i aros yn y brif adran y tymor nesaf, a hynny yn sgil eu colled o 31-0 ar Gae Ddol, yn Rhuthun. Mae hyn yn eu gadael pedwar pwynt tu ôl y gwŷr o’r Dwyrain, gyda Phwllheli’r unig gêm ar ôl y penwythnos yma. Wedi dechrau simsan i’r tymor i Ruthun, byddent yn siŵr o fod yn bles o orffen yng nghanol y tabl, ond bydd angen gwelliant sylweddol os am unrhyw siawns o orffen yn agos ar y brig tymor nesaf.

Wrecsam v Pwllheli

Hon oedd sioc fwyaf dydd Sadwrn, gyda Wrecsam yn trechu’r tîm yn yr ail safle o 21-14. Er iddynt golli yn y gêm gyfatebol, roedd ychwanegiad chwaraewyr safonol i’r garfan wedi gwneud gwahaniaeth, megis prop Gareth Parry ar fenthyg o RGC, a’r asgellwr Rob Massam wedi iddo chwarae rygbi’r Gynghrair yn broffesiynol rhai blynyddoedd yn ôl. Roedd y ddau ymysg y sgorwyr ar y diwrnod, gyda’r canolwr Armani Roberts hefyd yn croesi.

Y capten Jac Jones a’r wythwr dylanwadol Sam Hughes groesodd i’r gwŷr o Ben Llyn, a byddent nhw’n sicr o fod yn siomedig gan eu bod wedi targedu’r ail safle.

I Ddod

Dim ond tair gem sydd i ddod dydd Sadwrn yma, ond maent yn gemau enfawr gyda llawer yn y fantol. Mae Llandudno’n croesawu Nant Conwy mewn gem ddwbl, cwpan Gogledd Cymru a’r gynghrair. Mae Llangefni’n croesawu Wyddgrug ar Gae Smyrna mewn gem fydd yn penderfynu pwy fydd yn chwarae yn y brif adran tymor nesaf. Yn olaf, mae gem dderbi awr ar Fryn Estyn wrth i Wrecsam a Rhuthun frwydro am wobr y Dwyrain.

Pob lwc i bawb.