Gyda’r tymor yn dirwyn i ben, mae’r safleoedd terfynol yn dechrau edrych yn fwy cadarn erbyn hyn. Gyda gemau cwpan yn parhau, mae digon i chwarae amdano dal i fod, ynghyd a dal i fyny hefo gemau sydd wedi eu colli, felly mae hi wedi bod yn wythnos brysur.
Bala v COBRA
Mae’r gêm yma wedi cael ei chwarae dwywaith mewn 5 diwrnod, y tro cyntaf ym Maes Gwyniad mewn gem gwpan, a’r ail ym Meifod yn y gynghrair. COBRA oedd yn fuddugol y dwywaith. Y tro cyntaf, 16-11 oedd y sgôr terfynol sydd yn golygu eu bod trwodd i’r rownd gynderfynol.
Ar y nos Fercher, 13-9 oedd y sgôr, a hynny gyda thensiynau’n rhedeg yn uchel gyda chardiau coch a melyn yn cael eu dangos. Roedd COBRA i lawr 9-0 ar un pwynt felly gwnaeth y tîm cartref yn dda iawn i ddod yn ôl.
Nant Conwy v Llandudno
Roedd hon yn gêm ddwbl ym Mhant Carw, a gem o safon uchel roedd hi er nad oedd y sgôr yn adlewyrchu hynny. Nant oedd yn fuddugol o 10-5 gyda phrif sgoriwr y gynghrair, Sion Pringle yn croesi gyda’r capten, Caron Davies, yn gywir fel arfer hefo’i droed gan ychwanegu trosiad a chic gosb. Y profiadol Ed Weston groesodd i’r ymwelwyr.
Llangefni v Wyddgrug
Seliodd Yr Wyddgrug eu lle yn Adran 1 y tymor nesaf drwy drechu Llangefni o 27-24 mewn gem agos gyda Llangefni’n cipio dau bwynt bonws. Croesodd Ieuan Evans dwywaith i’r tîm cartref, gyda Gethyn Andrews ac Emyr Jones hefyd yn croesi, gyda’r ifanc Kian Gerrard yn trosi dwywaith.
Caine Le Tissier, James Portsmouth a’r prop pen tyn Ross Jones groesodd i’r gwŷr o’r Dwyrain. Efallai mai’r gwahaniaeth rhwng y ddau dîm oedd y cicio, gyda’r maswr Seth Geary’n sgorio 12 pwynt drwy dair cic gosb a dau drosiad. Bydd rhaid i Langefni aros i weld pa benderfyniad sydd yn cael ei wneud ynglŷn â Theirw Nant am eu dyfodol nhw tymor nesaf.
Wrecsam v Rhuthun
Wedi eu buddugoliaeth safonol yn erbyn Pwllheli wythnos yn gynharach, doedd Wrecsam methu gwthio ymlaen gan golli 24-22 yn erbyn Rhuthun. Sgoriodd y tîm cartref pwynt bonws wedi pedair cais gan Callum Riordan, Jacob Hughes, Olly Dodd a Tyler Roberts. Hughes ei hun oedd yn llwyddiannus hefo un trosiad.
Llandudno v Dolgellau
Gem ganol wythnos oedd hon ar Heol Maesdu, Llandudno gyda’r ail yn herio’r olaf. Roedd y gwahaniaeth safon i’w weld er nad ildiodd yr ymwelwyr yr un cam. 73-3 oedd y sgôr terfynol gyda 11 cais yn cael ei sgorio a naw trosiad. Croesodd Josh Cole bedair gwaith, gyda Sam Mckean, Lloyd Evans, Callum Bennett, Reeve Wright, Byron Davies, Morgan Owen a James Andrew hefyd yn croesi, gydag Andrew’n trosi.
Bethesda v Caernarfon
Dydd Sadwrn oedd hon i fod i gael i chwarae, ond oherwydd diffyg dyfarnwyr, roedd rhaid ail drefnu i nos Fawrth. Gem gwpan oedd hi, gyda Chaernarfon yn fuddugol o 31-17 ac felly’n herio COBRA yn y rownd gynderfynol ar Gae Meifod.
I Ddod
Yn y rownd gynderfynol arall, bydd Wrecsam yn croesawu Nant Conwy ond ni fydd honno’r penwythnos yma.
Y penwythnos yma bydd Bethesda’n croesawu Dolgellau, Llandudno’n chwarae Rhuthun, Caernarfon yn teithio i Nant Conwy a Pwllheli’n chwarae COBRA yn beth fydd gêm olaf nifer o’r clybiau.