Dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd, mi fues i’n myfyrio tipyn ar y llewyrch sydd yn y byd seiclo yng Nghymru ar hyn o bryd. Mi es i mor bell â dweud yng nghylchgrawn Golwg (18 Ionawr) mai 2024 fyddai’r flwyddyn fwyaf yn hanes seiclo yng Nghymru.

Dw i’n ymwybodol iawn hefyd mai colofn seiclo ‘ar lawr gwlad’ ydy hon i fod ers y cychwyn… ond mae’n anodd iawn, ar yr un pryd, i anwybyddu llwyddiannau’n seiclwyr ar y lefel broffesiynol.

Ond, mae ’na bosib pontio rhwng y ddau fyd. Wedi’r cyfan, un o ogoniannau mwyaf seiclo ydy’r posiblrwydd o ddilyn yr un llwybrau ag enwau mawr y gamp; mentro ar gaeau eu stadiymau mawr nhw heb orfod talu ceiniog.

Felly, wrth i ni wibio drwy Ionawr hynod gynhyrchiol i’n reidwyr, dw i am gynnig lleoliad fyddai’n siŵr o fod yn rhan o’u teithiau nhw pan fônt yng Nghymru, roith gyfle i chithau gael rhyw fath o deimlad o fod ar ben y byd.

Stevie’n serennu’n Awstralia

Perthyn y Tour Down Under, ras chwe chymal yn rhanbarth De Awstralia, i’r categori o rasys uchaf eu bri ar y calendr seiclo, sef y World Tour. Gan mai dyma’r gyntaf ohonyn nhw mewn blwyddyn, mae’n dueddol o ennyn tipyn o sylw; er nad ydy’r amserlen cweit mor ffafriol ag arfer i ffàns seiclo yn Ewrop.

Mae’n gyfle da, felly, i greu argraff, wrth i chwilfrydedd y gwybodusion a’r cefnogwyr gael ei gynnau o’r newydd ar ddechrau’r tymor.

Ac mi fachodd sawl un ar y cyfle i wneud hynny dros y cwta wythnos o rasio. Daeth enw newydd i law yn yr helfa barhaus am yr enw mawr newydd, wrth i’r Mecsicanwr Isaac Del Toro ddangos arddull rasio mentrus, di-droi’n-ôl i ennill cymal 2 a gorffen yn drydydd ar ddiwedd y ras.

Profodd pob un o’r diweddgloeon ar gymalau gwastad yn ffafriol iawn i’r gwibiwr Sam Welsford, hawliodd fuddugoliaeth ar y dair achlysur.

Yn amlach na pheidio, yn enwedig yn y degawd diwethaf, yn naturiol ddigon, Awstraliaid neu reidiwr o dîm wedi’i leoli’n Awstralia sy’n codi i’r brig, a hwythau’n ymroi tipyn i greu argraff ar dir cartref.

Ond mynd yn groes i’r tueddiad hwnnw wnaeth y Cymro o Aberystwyth, Stevie Williams.

Cafwyd perfformiad cofiadwy, ac yn anad hynny, meistrolgar ganddo dros y chwe chymal. Mi gadwodd o’n agos at y brig gydol y cymalau agoriadol, heb ddangos gormod na rhoi’i drwyn ar y blaen, gan gadw hynny tan yr adeg dyngedfennol.

Daeth yn ail ar gymal 5, gan roi ei hun ar frig y dosbarthiad cyffredinol, cyn codi i fuddugoliaeth nodedig ar Mount Lofty ar y cymal olaf yn lifrai’r arweinydd, i selio’r fuddugoliaeth a’r tlws.

Dydy pethau heb fod yn hawdd iddo; cafodd anaf i’w ben-glin allai fod wedi dod â therfyn i’w yrfa cyn y pandemig. Ond araf bach a phob yn dipyn, ac yntau bellach yn 27, mae’n raddol wedi dod i brofi llwyddiant ar y lefel uchaf.

Er iddo gipio buddugoliaethau nodedig ar gymal o’r Tour de Suisse yn 2022, ac ennill Taith Norwy yn 2023, dyma fuddugoliaeth fwya’i yrfa; y gyntaf mewn ras aml-gymal ar y lefel World Tour.

Dyma’i ail dymor yn lifrai Israel-Premier Tech, sydd hefyd yn codi’n ôl yn raddol o sefyllfa lle disgynon nhw i’r ail reng o dimau. Nid ‘cartref henoed’ mohonyn nhw mwyach, chwedl George Bennett wrth Rouleur, a hwythau’n gartref i reidwyr profiadol iawn megis Chris Froome a Mike Woods. Perthyn Stevie i’r to iâu talentog o reidwyr o fewn y garfan sy’n gallu elwa o brofiad yr hŷn, wrth i’r tîm gyfuno’r ddwy elfen honno i dorri llwybr mwy llewyrchus yn ddiweddar.

Roedd hi’n fuddugoliaeth bwysig i Stevie ac i’r tîm, ac yn ddechrau delfrydol i 2024.

Nant y Moch

Wrth ddianc o brysurdeb tref Aberystwyth a’r A487, mewn dim o dro gellir profi llonyddwch a thawelwch hyfryd ar y ddringfa at gronfa ddŵr Nant y Moch, sydd â graddiannau digon hamddenol ar y cyfan ac awyrgylch bleserus dros ben.

Finucane’n bencampwraig Ewrop

Ar ôl iddi ennill tlws Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ddiwedd 2023, wnaeth y seiclwraig o Gaerfyrddin – gynt o glwb Towy Riders – ddim oedi dim cyn profi llwyddiant eleni.

Dydy bod yn bencampwraig byd ac yn bencampwraig Prydain ddim yn ddigon i’r wibwraig 21 oed, mae’n amlwg – a hynny yn y categori elît cofiwch, nid unrhyw gategori oedran. Roedd yn rhaid iddi fynd â chipio teitl pencampwraig Ewrop hefyd ddechrau Ionawr yn yr Iseldiroedd, gan ddod y gyntaf i wneud hynny yn lifrai Team GB.

Ar ôl hwylio drwy’r rownd gyn-derfynol, daeth wyneb yn wyneb â Lea Sophie Friedrich yn y rownd derfynol, ddaeth yn ail yn ei herbyn ym mhencampwriaethau’r byd, a’i maeddu unwaith eto.

Felly gyda thri theitl o’r fath i’w henw’n barod, does ond un yn weddill i’w gyflawni. Mae’r fuddugoliaeth hon wedi rhoi unrhyw amheuaeth am le yn y garfan Olympaidd o’r neilltu, ac mae’n ymddangos ei bod hi ar drywydd ffafriol dros ben tua Paris.

Y Mynydd Du

Er fymryn yn bell o dref Caerfyrddin ei hun, byddai’n wirion peidio â chynnwys un o ddringfeydd gorau Cymru, yn fy marn i, a’r fwyaf nodedig rhwng ffiniau Sir Gâr, sef y Mynydd Du, a honno’n cynnwys Tro’r Gwcw o gyfeiriad Llangadog.

Calendr prysur Geraint

Wynebodd Geraint y bwganod yn ei berthynas â ras dair wythnos yr Eidal, y Giro d’Italia, y llynedd, gan gario crys pinc yr arweinydd ar ei gefn am sbel hir yn y drydedd wythnos. Ond, o golli gafael arno o 14 eiliad ar y diwrnod olaf un, mi grëwyd bwgan newydd i’w wynebu.

A dyna mae o wedi penderfynu’i wneud eleni, gan roi tro arall arni. Bydd y gystadleuaeth yr un mor heriol os nad yn fwy heriol yn 2024, wrth i fuddugwr dwbl y Tour de France, Tadej Pogačar roi cynnig arni hefyd.

Ond fydd hynny ddim yn ddigon iddo, cyhoeddodd ar ei bodlediad ‘The Geraint Thomas Cycling Club’ gyda Tom Fordyce. Mae’n mynd ôl hefyd i Ffrainc ac i’r Tour, ras y mae wedi gorffen yn 1af, yn 2il ac yn 3ydd arni yn y gorffennol.

Daeth dim cadarnhad ynghylch mentro i’r Gemau Olympaidd, er ei fod o wedi dweud yn flaenorol y byddai gwneud hynny am y pumed tro wrth ei fodd.

O ran argymhellion seiclo Geraint, mae cyfrol cyfan ohonyn nhw newydd gael ei gyhoeddi!

*

Mis prysur, llwyddiannus i seiclwyr Cymru i roi dechrau perffaith i’r flwyddyn newydd. Y cwestiwn sydd gen i ydy: a fydd rhaid i mi wneud colofn am eu llwyddiannau nhw bob mis, neu ga’i droi at rywbeth arall ryw dro?