Fe enillodd Y Seintiau Newydd 5-1 yn erbyn tîm dan 21 Abertawe yn Y Barri nos Sadwrn i gipio tlws Cwpan y Gynghrair am y degfed gwaith yn eu hanes, ac am y tro cyntaf ers 2018.
Aeth y buddugwyr ar y blaen wedi saith munud wrth i chwaraewr y gêm, Ryan Brobbel, sgorio cyn i Josh Pask wedyn ddyblu eu mantais ar ôl 19 munud.
Rhoddodd yr ymosodwr, Brad Young, Y Seintiau Newydd ymhellach ar y blaen wedi dechrau’r ail hanner cyn i Ben Lloyd daro gôl yn ôl i Abertawe gydag hanner awr i fynd.
Y Seintiau Newydd gymerodd reolaeth o’r gêm eto wedi hynny ac fe gadarnhawyd eu buddugoliaeth pan sgoriodd Adrian Cieslewicz ddwy gôl hwyr ar ôl dod ymlaen oddi ar y fainc.
Ymestynnwyd eu record yn y gystadleuaeth felly i ddeg o fuddugoliaethau. Y clwb agosaf iddynt o ran y record yw’r Barri, a hwythau wedi ennill y gwpan bedair gwaith.
Dyma oedd y pumed tro i reolwr Y Seintiau Newydd, Craig Harrison, ennill y gwpan hefyd. Cyflawnodd y gamp unwaith tra’n rheolwr Cei Connah a nos Sadwrn oedd y pedwerydd tro iddo lwyddo gyda’r Seintiau Newydd.
Fe fydd Harrison a’i dîm nawr yn troi eu golygon at y dair gwpan arall sydd ganddynt ar ôl i’w hennill eleni.
O ran y gynghrair maen nhw ymhell ar y blaen ac fe fyddai angen gwyrth erbyn hyn i’w rhwystro rhag codi’r gwpan honno ddiwedd y tymor.
Maent eisioes wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Her yr Alban ac wedi cyrraedd y chwarteri yng Nghwpan Cymru hefyd gyda’r ddwy gêm i ddod ym mis Chwefror.
Y Seintiau Newydd 5-1 dan 21 Abertawe
Roedd Y Seintiau Newydd yn hyderus ar gyfer y gêm a hynny am sawl rheswm. Ers ennill y gwpan nos Sadwrn mae eu rhediad o gemau heb golli bellach yn 33 gêm a’u rhediad o fuddugoliaethau yn 25.
Ar ôl ennill y gwpan bedair gwaith rhwng 2014 a 2018 dyma oedd y tro cyntaf i’r Seintiau Newydd gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ers chwe blynedd.
Roedd Abertawe’n chwarae’n dda yn eu paratoadau ar gyfer y gêm hefyd a hwythau’n ail yn y Gynghrair Ddatblygu Broffesiynol ac yn brif sgorwyr y gynghrair gyda 44 o goliau.
Dim ond un gêm roeddent wedi’i cholli yn eu naw ddiwethaf.
Dyma wrth gwrs oedd y tro cyntaf iddynt gystadlu yng Nghwpan y Gynghrair wedi iddynt gael eu croesawu, ynghyd â Chaerdydd ar gyfer eu hail waith hwythau, i gymryd rhan ynddi y tymor hwn. Fe drechodd Yr Elyrch eu gelynion pennaf yn rownd yr 16 olaf a hynny ar giciau o’r smotyn.
Gyda’r ddau dîm yn adnabyddus am eu pêl-droed deniadol a’r ddau wedi perfformio’n dda drwy gydol y gystadleuaeth roedd hi’n argoeli i fod yn gêm o safon uchel. Roedd Y Seintiau Newydd wedi sgorio 17 gôl yn y gwpan gan ildio dim ond dwy tra’r oedd Abertawe wedi sgorio 14 gan hefyd ildio dim ond dwy.
Hanner cyntaf
Fe ddangosodd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru eu profiad o’r cychwyn cyntaf wrth iddynt geisio canfod gôl gynnar. Daeth eu cyfle cyntaf ar ôl tri munud gyda chic rydd Ryan Brobbel yn glanio ar ben rhwyd y gôl.
Ychydig funudau wedi hynny fe gafodd Y Seintiau Newydd eu gôl a hynny wedi i waith da Brad Young ryddhau Rory Holden a ergydiodd am y gôl cyn iddi gael ei harbed a’r bêl yn cael ei gwthio i gyfeiriad Ryan Brobbel, oedd unwaith eto yn y lle iawn ar yr amser iawn i’w gosod yn rhwydd yng nghefn y rhwyd.
Daeth Y Seintiau yn hynod o agos eto ymhen ychydig wedi i gic rydd y capten Chris Marriott achosi i olwr Abertawe, Remy Mitchell, ddyrnu’r bêl allan a hynny dim ond i roi cyfle arall i’r Seintiau wrth i Rory Holden daro’r postyn gydag ergyd nerthol.
Parhau i reoli wnaeth Y Seintiau gyda hogiau ifanc Abertawe yn ei gweld hi’n anodd ymdopi â’u cryfder ar adegau.
Yn dilyn cyffyrddiad deallus gan Brad Young i greu lle i Ryan Brobbel rhoddwyd pêl arbennig drwodd a dorrodd drwy amddiffyn Abertawe fel cyllell drwy fenyn ond fe fethodd Jordan Williams a gwneud yn fawr o’r cyfle wrth i’r amddiffynnwr, Richard Faakye, gyrraedd yn ôl mewn pryd a’i daclo’n dda.
Cafodd Young gyfle ei hun yn fuan wedyn ond ni chafodd ddigon o bŵer ar ei beniad gyda’r golwr Remy Mitchell yn cadw Abertawe yn y gêm am y tro.
Ar ôl chwarae’r bêl yn fyr o gic gornel fe achosodd groesiad arall Y Seintiau drafferthion yn amddiffyn Abertawe wrth i Ryan Brobbel unwaith eto chwarae ei ran gan helpu’r bêl ymlaen ymysg y blerwch yn y cwrt gan alluogi i Josh Pask wyro’r bêl i gefn rhwyd.
Wedi 29 munud fe darodd Jordan Williams ergyd ragorol o bell gan orfodi’r golwr ifanc i arbed unwaith eto.
Roedd Y Seintiau’n rheoli’n llwyr erbyn hyn ac er i Abertawe gael cyfnodau da o basio bob hyn a hyn gyda’u chwaraewyr ymosodol, Liam Smith a Dan Watts, yn cyd-chwarae’n dda â’i gilydd roeddent i’w weld dan bwysau yn y cefn yn aml gyda chwaraewyr cryf ymosodol Y Seintiau Newydd yn achosi problemau iddynt sawl gwaith.
Cyn chwiban hanner amser fe roddwyd Brad Young drwodd ond fe arbedwyd ei ergyd yn dda gan Remy Mitchell a sicrhaodd mai dim ond dwy gôl o wahaniaeth fyddai rhwng y ddau dîm hanner ffordd drwy’r gêm.
Ail hanner
Fe orfodwyd arbediad cyntaf y noson gan olwr Y Seintiau Newydd, Connor Roberts, ym munudau agoriadol yr ail hanner wedi i ergyd o bell gan Dan Watts fynd am gornel ucha’r gôl.
Ond ar ôl 49 munud rhoddodd Brad Young ei dîm dair gôl i ddim ar y blaen. Ryan Brobbel unwaith eto’n rhan allweddol o’r symudiad gyda’i groesiad yn canfod Young yn y cwrt a symudiad clyfar Young yn creu’r gwagle iddo’i hun fedru taro’r drydedd i mewn.
Bu cryn ddadlau ar ochr y cae wedi’r gôl gyda rheolwr Abertawe, Anthony Wright, yn anhapus nad oedd trosedd wedi’i rhoi yn erbyn Y Seintiau wedi i’w ymosodwr, Cameron Congreve, gael ei daro yn ei ben gan Josh Pask eiliadau yn unig cyn i’r gôl fynd i mewn.
Roedd hi’n amlwg nad oedd Pask wedi taro’i wrthwynebydd ar bwrpas ond oherwydd bod yna anaf i ben Congreve, ac o gofio’r rheolau newydd sy’n bodoli, fe fyddai wedi bod yn ddigon hawdd i’r gêm fod wedi’i stopio. Serch hyn, er bod y dyfarnwr yn agos i’r digwyddiad ni deimlodd unrhyw angen i wahardd y gôl.
Ni aeth pennau chwaraewyr Abertawe i lawr ar ôl hynny, fel y byddai wedi medru digwydd a hwythau dair gôl i ddim ar ei hôl hi, ac fe gawson nhw eu gôl ar ôl 57 munud gyda Ben Lloyd yn y cwrt yn manteisio ar gamgymeriad Josh Pask wrth iddo geisio clirio.
Hon oedd ail gol Lloyd yng Nghwpan y Gynghrair gyda’i gyntaf wedi’i sgorio yn erbyn Caerfyrddin yn y rownd agoriadol.
Parhaodd Y Seintiau i chwilio am eu pedwaredd wedi hynny wrth i ergyd Rory Holden wibio heibio’r postyn a pheniad Danny Davies o gic gornel wedyn yn gofyn am arbediad arall gan Remy Mitchell yn y gôl.
Cafwyd mwy o arbedion da gan Mitchell cyn y diwedd gyda dwy ohonynt o fewn eiliadau i’w gilydd wrth iddo atal ergyd Davies ac yna ymateb yn gyflym i rwystro un arall gan Brad Young.
Gan ddangos eu proffesiynoldeb ni adawodd Y Seintiau Newydd i gôl Abertawe ddatblygu’n drafferthion pellach wrth iddynt afael ynddi hyd y diwedd i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Ar ddechrau amser ychwanegol fe roddodd Adrian Cieslewicz ei dîm ymhellach ar y blaen wrth iddo guro’r amddiffynnwr a tharo ergyd tua’r gornel a gurodd Mitchell yn y gôl yn rhy hawdd y tro hwn.
Ychwanegodd Cieslewicz bumed gôl yn fuan wedyn wrth iddo fanteisio ar groesiad dda ei gyd-eilydd, Jordan Marshall, a defnyddio’i gyflymder i gyrraedd y cwrt mewn pryd cyn sgorio’i ail o’r gêm a sicrhau mai enw’r Seintiau Newydd fyddai’n mynd ar y gwpan eleni.
Rheolwr Y Seintiau Newydd, Craig Harrison:
“Mi wnaethon ni ddechrau’r tymor yn anelu i ennill bob dim. Mae’n gyfle da ym mis Ionawr i gael cwpan. Mae’r hogia wedi bod yn ffantastig, mae pawb wedi cyfrannu’n aruthrol i’r ymgyrch gyfan yn y gwpan.
“Mi rydym ni wedi chwarae’n dda eto heno ma, ychydig bach yn flêr ar adegau, ond dwi’n meddwl ein bod ni wedi gwneud yn iawn.
“Fe ddylai’r gêm siŵr o fod wedi bod ar ben yn yr hanner cyntaf. Roedd y golwr yn arbennig yn y 45 munud cyntaf, mi wnâi ganmol ef yn hytrach na sôn am ein methiannau ni o flaen y gôl.
“Mi ddaethon ni yma i ennill, dwi’n meddwl ein bod ni ar y cyfan wedi rheoli’r gêm. Yn amlwg mae gan Abertawe lawer o hogiau ifanc talentog, gobeithio ân nhw ymlaen i gael gyrfaoedd llewyrchus.
“Ond ia, mi wnaethon ni ddod yma i ennill y gwpan ac yn amlwg mi wnaethon ni ei hennill yn gyfforddus yn y diwedd.”