Neithiwr, daeth torf o 833 ynghyd ar noson arw ym Mharc Stebonheath, Llanelli i wylio Cymru C yn curo tîm Lloegr C o un gôl i ddim.
Daeth y gôl yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf gyda chic gelfydd gan Sion Bradley wedi iddo gael ei dynnu i lawr tu allan i’r blwch gan Chris Bush – capten Lloegr.