Mae cymalau ras Taith Prydain i Ferched wedi eu cyhoeddi yr wythnos hon gyda’r cymal cyntaf yn dechrau yn Y Trallwng.

Dyma’r tro cyntaf erioed i British Cycling Events drefnu’r digwyddiad a fydd yn denu seiclwyr o bedwar ban byd ac fe fydd hanner cyntaf y ras, o bedwar diwrnod, yn digwydd yng Nghymru.

Bydd y cyfan yn cychwyn ddydd Iau 6ed o Fehefin gyda disgwyl gweld cannoedd ar filoedd o gefnogwyr yn llenwi’r palmentydd i gefnogi’r ras anferthol.

Yn y ras fe fydd seiclwyr a thimau yn mynd wyneb yn wyneb ar draws pedwar cymal heriol, gan gynnwys nifer o leoliadau sy’n adnabyddus iawn i’r byd seiclo.

Llwybr y ras

Bydd y ras yn gwawrio yn Y Trallwng yn yr union fan lle enillodd Grace Brown o Awstralia pedwerydd cymal Taith Menywod 2022. Anelu tua’r gogledd bydd y seiclwyr o’r man cychwyn ac ymlaen i dref glan môr Llandudno ar ddiwrnod agoriadol hynod heriol i’r ras.

Wrecsam bydd yn llwyfannu yr ail gymal gyda’r ras yn cychwyn ac yn gorffen yn y ddinas. Ar hyd y cymal fe fydd yna ddringfeydd anodd ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Bydd cymal tri yn gyfle i’r sprintwyr greu argraff gyda’r ras yn Warrington yn gyfle i fwynhau tiroedd mwy gwastad. Bu Taith Prydain i’r Dynion 2021 yn Warrington gyda Ethan Hayter yn cipio’r fuddugoliaeth y tro hwnnw.

Daw’r cyfan i ben ym Manceinion fel rhan o ddathliadau Prifddinas Beicio Ewrop. Bydd y cymal olaf yn cychwyn yn y Ganolfan Seiclo Cenedlaethol, cartref Seiclo Prydain, cyn mynd ati i daclo dringfeydd anodd yr ardal gan orffen yn Leigh.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd British Cycling y byddai Taith Prydain Dynion yn cael eu cyflwyno dros chwe diwrnod yn 2024, gyda’r uchelgais o ddod â chydraddoldeb i’r ddwy daith genedlaethol yn y dyfodol, yn dilyn alinio enwau’r digwyddiadau yn 2024.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru:

“Mae Cymru a seiclo yn mynd law yn llaw, gyda’n golygfeydd a’n llwybrau godidog yn rhoi her a mwynhad i feicwyr elît a hamdden fel ei gilydd.

“Mae’n gyfle gwych i arddangos y Trallwng, Llandudno, Wrecsam a’r cyffiniau i gynulleidfa feicio sy’n tyfu’n barhaus. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r digwyddiad ac yn edrych ymlaen at ddarparu ‘Croeso’ cynnes i bawb ym mis Mehefin.”

Taith Menywod Prydain 2024:

  • Cymal 1 – Iau 6ed Mehefin: Y Trallwng i Landudno
  • Cymal 2 – Gwener 7fed Mehefin: Wrecsam
  • Cymal 3 – Sadwrn 8fed Mehefin: Warrington
  • Cymal 4 – Sul 9fed Mehefin: Manceinion