Mae’r wythwr Taulupe Faletau, sy’n cael ei weld fel un o’r chwaraewyr gorau erioed i gynrychioli Cymru, yn barod i ddychwelyd i’r cae rygbi ar ôl cyfnod hir yn gwella o anafiadau.

Nid yw Faletau wedi camu ar y cae rygbi ers gêm Cymru yn erbyn Georgia yng Nghwpan y Byd 2023, gêm lle ddaeth oddi ar y cae wedi torri ei fraich. Ers hynny mae wedi dioddef ag anaf i’w goes sydd wedi golygu cyfnod hirach na’r disgwyl o dan oruchwyliaeth y tîm meddygol.

Heno, fodd bynnag, fe fydd yn dychwelyd i’r cae yng nghrys Rygbi Caerdydd wrth iddynt wynebu Ulster yn Belfast.

Ar ôl dros chwe mis heb chwarae gêm, mae’r wythwr sydd wedi ennill 104 o gapiau dros Gymru, yn barod i ddychwelyd.

Mae Matt Sherratt, Prif Hyfforddwr Caerdydd, yn falch iawn o’i weld yn ôl; “Mae’n wych ei gael e’n ôl, i Taulupe ac i weddill y grwp. Mae e fel Rolls Royce ondyw e?

“Mae e’n rhedeg o amgylch y cae ac mae e’n llwyddo cael y gorau allan o bawb. Mae e’n amlwg i’w weld pan mae e’n ôl, gyda chwaraewyr fel Mackenzie Martin ac Alex Mann. Pwy sydd ddim eisiau chwarae gyda Taulupe Faletau? Mae e’n chwaraewr arbennig.

“Dyw e ddim yn dweud llawer, mae e’n eitha’ tawel, ond mae e’n caru chwarae rygbi. Mae’r angerdd i’w weld yn ei lygaid.”

Wrth son am y daith yn ôl i ffitrwydd, dywedodd Sherratt; “Mae’n glod iddo oherwydd mae’n amlwg wedi bod yn daith hir yn ôl iddo ac mae wedi dangos lot o gymeriad i ddod yn ôl. Mae e’n chwaraewr proffesiynol da ac yn ddyn arbennig.”

Aeth Sherratt ymlaen i ddweud; “Mae popeth mae e’n ei wneud yn edrych yn gyfforddus. Mae e’n un o’r chwaraewyr gorau i chwarae dros Gymru, mae e’n chwaraewr arbennig.”