Prin iawn yw’r cysylltiadau rhwng Cymru a’r National Football League (NFL). Dau Gymro yn unig sydd wedi chwarae pêl-droed Americanaidd yn broffesiynol ar y lefel uchaf a dim ond saith ymddangosiad cystadleuol wnaeth yr ‘arloeswyr’ hynny rhyngddynt: sgoriodd y ciciwr, Allan Watson, 22 o bwyntiau (saith pwynt ychwanegol a phum gôl faes) yn ei bedair gêm i’r Pittsburgh Steelers ym 1970, cyn i Jon Norris (a aned ym Mhort Talbot) gamu i’r maes ar dri achlysur fel aelod dros