Bellach, mae Y Seintiau Newydd yn bencampwyr y Cymru Premier a hynny am yr unfed tro a’r bymtheg gyda’r frwydr i osgoi cwympo o’r uwch-gynhrair rhwng Bae Colwyn, Tref Aberystwyth a Phontypridd.

Wrth i gefnogwyr y clybiau hynny edrych dros eu hysgwyddau gyda chryn bryder mae timau o’r Cymru South a’r Cymru North yn edrych tuag at wlad yr addewid. Bûm yn trafod y ddwy ras gyda Rhydian Morgan (Clwb Pêl-droed Tref Porthmadog) a Matthew Wallace (Clwb Pêl-droed Rhydaman).

Tref Llanelli sydd ar frig y Cymru South a gôl hwyr (iawn!) Josef Hopkins wedi sicrhau’r triphwynt iddynt yn erbyn Dreigiau Baglan dros y Sul. Yn dynn ar eu sodlau mae Briton Ferry Llansawel oedd hefyd wedi ei gadael hi’n hwyr i guro Goytre oddi cartref. Bellach, mae’r tîm o dref y sosban dri phwynt ar y blaen i Briton Ferry Llansawel gyda gwahaniaeth goliau fymryn yn well ond mae gan y tîm yn yr ail safle gêm mewn llaw!

Roedd pethau wedi argoeli’n dda i Briton Ferry Llansawel nes iddyn nhw golli dwy gêm o’r bron yn erbyn Cambrian & Clydach a Rhydaman a soniodd Matthew am y chwyldro sydd wedi digwydd i’w dîm wedi dau dymor ble roedd y clwb wedi dod yn agos iawn at gwympo i’r drydedd haen a hwythau bellach ymysg y ceffylau blaen. Fodd bynnag, yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Cambrian & Clydach daeth rhediad o saith buddugoliaeth i ben ond mae’r tymor ymhell o fod drosodd i’r clwb. Fel y dywedodd Matthew: “mae’n anodd rhagweld beth fydd y canlyniad nesaf yn y Cymru South, yn sicr mae sawl syrpreis ar y gorwel”.

Tri tîm sydd ynddi yng nghynghrair y Cymru North hefyd: Airbus UK Broughton; Treffynnon a’r Fflint – tri tîm sy’n gyn-aelodau o’r Cymru Premier! Y tîm o Brychdyn sydd ar y brig ond wedi dweud hynny dim ond un gêm mae Treffynnon wedi ei golli trwy gydol y tymor – a hynny’n erbyn Airbus nôl ym mis Rhagfyr! Clwb Y Fflint sydd yn y trydydd safle a hwythau bedwar pwynt o’r brig ond gyda dwy gêm mewn llaw – yr unig ddau dîm sydd wedi eu curo’r tymor hwn yw Airbus a Threffynnon.

Er bod Rhydian yn gwylio’r ras ar y brig gyda diddordeb mae ei olygon tuag at waelod yr adran ond gyda dwy fuddugoliaeth i’w dîm yn y tair gêm ddiwethaf, yn erbyn dau dîm o Sir Drefaldwyn, Caersws a Llanidloes, mae tinc o obaith yn ei lais! Mae’n ffyddiog bod dianc yn bosibl ac y gall tîm Y Traeth gyflawni’r ‘Great Escape’! Ychwanegodd bod “un peth yn sicr …  y bydd diwedd cyffrous i’r tymor yn y Cymru North”!

O ystyried y gemau sydd ar ôl dwi am fentro darogan pa ddau dîm fydd ar y brig pan ddaw diwedd y tymor!

Cymru South: Tref Llanelli

Cymru North: Treffynnon

 

Gemau’r penwythnos

Cymru South: 8/3/2024

Caerau Ely v Briton Ferry Llansawel

Tref Llanelli v Llanilltud Fawr

Tref Y Fenni c Rhydaman

 

Cymru North: 8/3/2024

Llandudno v Airbus UK Broughton

Gresford Athletic v Tref Fflint

Mold Alexandra v Treffynnon (9/3/2024)